Etholiad
lle mae pob aelod (neu'r 'mwyafrif') o unrhyw gorff gwleidyddol i'w ethol yw
etholiad cyffredinol
. Arferir y term fel rheol i gyfeirio at etholiadau i brif gorff deddfwriaethol
cenedl
neu
wladwriaeth
, mewn cyferbyniaeth ag
is-etholiadau
ac
etholiadau lleol
.
Mae'r term yn tarddu o system etholiadol y
Deyrnas Unedig
lle ceir etholiadau cyffredinol i ethol
Aelodau Seneddol
i
D?'r Cyffredin
yn
San Steffan
, ond fe'i defnyddir i gyfeiro at etholiadau tebyg mewn sawl gwlad arall bellach.
[1]
Yma, mae'r term fel arfer yn cyfeirio at etholiad cenedlaethol ym mhob etholaeth seneddol ar yr un diwrnod Aelodau Seneddol, lle etholir hwy i San Steffan. Ni ddefnyddir y term i gyfeirio at etholiadau i
Gynulliad Cymru
, ond mae Adran 2 o Ddeddfwriaeth yr Alban, 1998, yn ei ddefnyddio yngh nghyd-destun ethol aelodau i
Senedd yr Alban
.
[2]
Yng ngwledydd Prydain rhaid cynnal etholiad cyffredinol o fewn pum mlynedd ac un mis o ennill grym, yn unol a deddf
Fixed-term Parliaments Act 2011
. Ceir eithriad i hyn pan fo'r T?'r Cyffredin yn pasio pleidlais o ddiffyg ffydd yn y Llywodraeth cyn hynny, neu os yw dau draean (2/3) o aelodau'r T? yn pleidleisio dros ei gynnal ynghynt. Yn ystod y ddau Ryfel Byd, newidiwyd y tymor e.e. gohiriwyd Etholiad Cyffredinol 1910 i Dachwedd 1918 ac felly hefyd gyda Etholiad Cyffredinol a fwriadwyd ei gynnal yn Nhachwedd 1935, ac a ohiriwyd tan Mehefin 1945. Mae gan
D?'r Arglwyddi
feto
ar y gohirio, fodd bynnag.
Yn wreiddiol, roedd y broses o ethol yn cymrys sawl wythnos, ac nid un diwrnod. Cynhaliwyd y bleidlais ar ddiwrnodau gwahanol mewn etholaethau gwahanol. Yn 1911 newidiwyd hynny gan ddeddfwriaeth. Ers
1931
cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol ar Ddydd Iau, ond nid yw hynny'n angenrheidiol.