Rhanbarth daearyddol neu gr?p o bobl a gynrychiolir mewn
senedd
,
cynulliad
neu gorff etholedig arall yw
etholaeth
. Mae ystyr gwreiddiol y term yn golygu y corff o bleidleiswyr yn yr etholaeth honno, sef yr etholwyr, dyma hefyd yw'r diffiniad cyfreithiol o etholaeth.
"Etholwr" yw'r enw am un aelod o'r etholaeth, ac mae hyn yn cynnwys pawb sydd a'r hawl i
bleidleisio
, heb ots os ydynt yn dewis pleidleisio neu beidio. Pan fydd etholaeth yn ethol cynrychiolydd, bydd y person hwnnw yn gyfrifol am gynrychioli diddordebau'r etholaeth (y bobl a'r ardal), ond byddent yn aml yn derbyn cyfrifoldebau eraill ac yn gorfod ateb i holl etholaeth y senedd neu'r cynulliad.