Esztergom

Oddi ar Wicipedia
Esztergom
Trem ar ardal Vizivaros, gyda Th?r Gwyn Castell Esztergom ar ochr dde'r llun.
Math city with county rights  Edit this on Wikidata
Hu-Esztergom.ogg  Edit this on Wikidata
Poblogaeth 28,680  Edit this on Wikidata
Cylchfa amser CET , UTC+01:00, UTC+2  Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Maintal, Espoo, ?turovo, Bamberg, Cambrai, Ehingen, Gniezno, Mariazell, Caergaint   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Esztergom District  Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Hwngari  Hwngari
Arwynebedd 10,010 ha  Edit this on Wikidata
Uwch y mor 105 ±1 metr, 160 ±1 metr  Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Donaw   Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Pilismarot, Pilisszentkereszt, Piliscsev, Kesztolc, Dorog, Tokodaltaro, Tokod, Tat, Ch?aba, Kamenica nad Hronom, ?turovo, Obid  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 47.7856°N 18.7403°E  Edit this on Wikidata
Cod post 2500?2509  Edit this on Wikidata
Map

Dinas a phorthladd afon yng ngogledd-orllewin Hwngari yw Esztergom ( Almaeneg : Gran , Lladin : Solva neu Strigonium , Slofaceg : Ostrihom ). Saif ar lannau Afon Donaw , ar y ffin rhwng Hwngari a Slofacia , 46 km (29 mi) i ogledd-orllewin y brifddinas Bwdapest . Lleolir ar ben gorllewinol y dyffryn rhwng bryniau Pilis a Borzsony, sydd yn rhannu Gwastadedd Bach Hwngari o Wastadedd Mawr Hwngari. [1]

Sefydlwyd yr anheddiad Magyaraidd ar safle'r hen Solva, un o brif gyffindrefi talaith Pannonia yn yr Ymerodraeth Rufeinig . Yn 960 dewisiodd Geza, Uchel Dywysog yr Hwngariaid, leoli ei lys yno, gan wneud Stregom (fel y'i gelwid erbyn hynny) yn brifddinas Tywysogaeth Hwngari , ac adeiladodd ei gastell ar y castrum Rhufeinig ar Varhegy (Bryn y Castell). Coronwyd Istvan I yn frenin cyntaf Hwngari yno ym 1000 neu 1001. Yn ystod teyrnasiad Istvan I, sefydlwyd yr archesgobaeth hynaf yn y wlad yn y ddinas hon. Dyma oedd preswylfa teyrnoedd brenhinllin Arpad hyd at ganol y 13g, ac erbyn hynny yr adnabyddid Esztergom wrth ei henw presennol.

Ildiodd Esztergom i'r Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil gwarchae ar ei chastell ym 1543, a fe'i meddiannwyd gan yr Otomaniaid hyd at ddechrau Rhyfel Mawr y Twrc ym 1683. Yn y cyfnod hwnnw, symudwyd yr archesobaeth i Trnava ; dychwelodd ym 1820, a fe'i ailenwyd yn Archesgobaeth Esztergom-Bwdapest ym 1991. Basilica Esztergom, a adeiladwyd ym 1822?60 ar safle hen eglwys gadeiriol Istvan I, yw'r eglwys fwyaf yn Hwngari. Mae pensaerniaeth Esztergom yn nodedig am ei nifer o dai yn y dull Baroc .

Wedi'r Ail Ryfel Byd , datblygwyd diwydiannau i gynhyrchu ceir, nwyddau trydanol, a chynnyrch optegol. [1] Y boblogaeth yn 2022 oedd 27,897. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg)   Esztergom . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 5 Ionawr 2023.
  2. Esztergom, KSH