Rhan o'r
Peacock Room
gan James McNeill Whistler, un o'r enghreifftiau amlycaf o
ddylunio mewnol
yn yr arddull Esthetaidd
Mudiad
celf
yn ail hanner y 19g, yn bennaf yn
Lloegr
a'r
Unol Daleithiau
, oedd
Esthetiaeth
. Credo fachog y mudiad oedd "
celfyddyd er mwyn celfyddyd
", gwrthodiad plaen o'r syniad bod pwrpas cymdeithasol, moesol neu
addysgol
i gelf. Cafodd y mudiad ei alw'n aml yn "yr addoli ar y prydferth" (
Saesneg
:
cult of the beautiful
).
Yng nghanol y 19g, datblygodd athroniaethau yn
Ewrop
mewn adwaith i
ddiwydiannu
,
defnyddiolaeth
, a'r newidiadau cymdeithasol syfrdanol a fu ar doriad
modernedd
. Bellach, nid crefftwr angenrheidiol oedd yr arlunydd a noddid gan y frenhiniaeth a'r eglwys. Yn hytrach, dyn ar gyrion cymdeithas ydoedd a pheth y gellir ei hepgor oedd ei ddawn artistig. Honnwyd trefn o
benderfyniaeth
yn y byd gan athrawiaethau gwleidyddol a gwyddonol newydd, megis
Marcsiaeth
a
Darwiniaeth
, gan fygwth hunaniaeth a natur unigryw y crefftwr creadigol. Bu arlunwyr hefyd yn ofni cydymffurfio o ganlyniad i
fasgynhyrchu
, ac effeithiau'r gyfundrefn
gyfalafol
ar ddiwylliant.
Gellir olrhain gwreiddiau deallusol y mudiad i'r athronydd
Immanuel Kant
a ddadleuodd o blaid annibyniaeth safonau
esthetaidd
oddi ar
foesoldeb
, defnyddioldeb, a phleser. Ymhlith yr eraill i fynegi syniadau tebyg oedd
Goethe
a
Ludwig Tieck
yn
yr Almaen
,
Samuel Taylor Coleridge
, a
Thomas Carlyle
yn Lloegr, a
Germaine de Stael
,
Theophile Gautier
, a
Victor Cousin
yn
Ffrainc
. Ymddangosodd yr arluniaeth gynharaf yn yr arddull Esthetaidd yng nghelf y
Cyn-Raffaeliaid
yn Lloegr.
[1]
Blodeuai'r mudiad yn Lloegr o'r 1860au i'r 1890au, ym mha le'r oedd yn gorgyffwrdd i raddau helaeth a
Dirywiaeth
, ac ymhlith ei brif ffigurau oedd
Oscar Wilde
,
James McNeill Whistler
,
Walter Pater
,
Max Beerbohm
, ac
Aubrey Beardsley
. Yno, yr oedd y mudiad yn adwaith neilltuol yn erbyn celf a dylunio
Fictoraidd
a gafodd ei hystyried yn oraeddfed ac yn ymhongar gan yr Esthetwyr. Dylanwadwyd ar Esthetiaeth yn gryf gan
gelf Japan
a
Tsieina
, ac roedd yn gysylltiedig a'r
mudiad Celf a Chrefft
,
Symbolaeth
,
art nouveau
,
japonaiserie
, ac adfywiad
arddull y Frenhines Anne
.