Primat
mawr lled-unionsyth o'r Hen Fyd sydd a
breichiau
hirion a brest lydan ond sydd heb
gynffon
na bochgoden yw'r
epa
(enw
Lladin
:
Hominoidea
). Mae ei symudiad rhydd yn wahanol iawn i lawer brimatiaid eraill, yn enwedig yng nghymal yr ysgwydd. Ceir dwy gainc o'r uwchdeulu
Hominoidea
: y
gibon
, neu'r 'epa lleiaf'; a'r
hominid
, sef yr 'epa mawr'. Mae'n anifail gwaed cynnes gyda ffwr ar ei groen. Yr epa mwyaf yw'r
gorila cyffredin
.