Engrafio

Oddi ar Wicipedia
Engrafiad gan Albert Durer o Sant Sierom yn ei Fyfyrgell (1514).

Proses brintio drwy endorri'r ddelwedd gyda phwyntil torri (o'r enw biwrin) ar wyneb metel , copr gan amlaf, yw engrafio neu engrafu . Gelwir y broses weithiau'n llin-engrafio , gan ei bod ond yn ailgynhyrchu marciau llinellog, er y gellir creu awgrym o arlliw a graddliw drwy dechnegau megis tynnu llinellau cyfochrog, croeslinellau, a smotiau man. [1]

Gelwir proses debyg, sy'n defnyddio asid i endorri'r ddelwedd ar wyneb metel, yn ysgythru .

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Dyfeisiwyd llin-engrafio yn y Rheindir ac yng ngogledd yr Eidal tua'r un pryd, yng nghanol y 15g. Gofaint aur oedd yr engrafwyr Almaenig cyntaf, a llofnodasant eu gwaith gyda blaenlythrennau eu henwau neu ffugenwau . Yr engrafwr cyntaf o'r Almaen yr ydym yn gwybod amdano'i fywyd yw'r gof aur a phaentiwr Martin Schongauer . Yn yr Eidal, mi oedd yr engrafwyr yn ofaint aur a hefyd yn weithwyr metel nielo . Un o'r cyntaf oedd Maso Finiguerra o Fflorens . Yn fuan cofleidiwyd dulliau engrafio gan baentwyr Eidalaidd, megis Andrea Mantegna ac Antonio Pollaiuolo . Erbyn yr 16g, ailgynhyrchu paentiadau oedd prif ddiben yr engrafwyr yn yr Eidal, ac yn wir mae meistr enwocaf y grefft o'r wlad honno, Marcantonio Raimondi yn adnabyddus yn bennaf am ei gopiau o baentiadau Raffael .

Y tu hwnt i'r Eidal, ymledodd dulliau engrafio ar draws y gwledydd Almaeneg, y Gwledydd Isel, a mannau eraill yng Ngogledd Ewrop. Ymhlith meistri'r grefft yn y 16g oedd Albrecht Durer ac Hendrik Goltzius . Yn yr 17g a'r 18g datblygwyd technegau dotweithio ac engrafio creon, hynny yw britho'r wyneb metel gyda rhiciau man. Dyfeisiwyd mesotintio yn yr 17g gan Ludwig von Siegen . Adferwyd yr hen lin-engrafio yn yr 20g gan yr arlunydd Ffrengig Jacques Villon a'r Saeson Eric Gill a Stanley William Hayter .

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Saesneg)   Engraving . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 8 Chwefror 2019.