Encyclopædia Britannica

Oddi ar Wicipedia
32 cyfrol y 15fed argraffiad o Encyclopædia Britannica , yn cynnwys blwyddiadur 2002.

Gwyddoniadur aml-gyfrol wedi ei ysgrifennu yn yr iaith Saesneg yw Encyclopædia Britannica . Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yng Nghaeredin yn y flwyddyn 1768 , felly'n ei wneud yn wyddoniadur henaf y byd sydd yn parhau i fod mewn print. Yn bresennol, mae Britannica ar ei 15fed argraffiad, ond caiff adolygiad newydd ei gyhoeddi bob blwyddyn i gadw ei gynnwys yn weddol cyfoes. Dros y blynyddoedd, mae Britannica wedi gwneud enw ymysg y dysgiedig fel gwyddoniadur hynod o ysgolheidraidd, yn rhannol oherwydd fod adrannau o'r gwyddoniaduron wedi eu hysgrifennu gan nifer o unigolion awdurdodol, megis enwogion academaidd fel Albert Einstein , Marie Curie a Leon Trotsky . Er hynny, mae Britannica wedi bod mewn trafferth ers dyfodiad y rhyngrwyd a gwyddoniaduron rhyngweithiol, sydd wedi lleihau cyfran marchnad Britannica yn sylweddol a gorfodi y cyhoeddwyr i leihau ei bris. Maent hefyd wedi rhyddhau nifer o fersiynau ar gyfrwng CD / DVD a gwasanaeth ar-lein i gystadlu gyda gwyddoniaduron modern fel Encarta a Wicipedia .

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]