Gweithred gan wladwriaeth neu gyfundrefn arall i rwystro ei phobl, yn rhannol neu'n gyfangwbl, rhag cynnal cysylltiadau economaidd ayyb a gwlad neu ranbarth arall yw
embargo
.
Mae yna wahaniaeth rhwng embargo a gwarchae (
blockade
). Dan gyfraith ryngwladol mae'r olaf yn weithred rhyfel yn erbyn gwlad arall tra bod embargo yn cael ei osod gan awdurdodau un wlad (neu gr?p o wledydd) i rwystro eu trigolion rhag masnachu a gwlad arall neu fynd ag unrhyw beth yno. Gall pwrpas embargo amrywio. Weithiau mae'n achos o wahardd masnach yn gyffredinol ond gallai hefyd fod yn embargo cyfyngedig, e.e. masnach arfau neu olew, a hynny er mwyn rhoi pwysau ar wlad dan yr embargo. Mae'r gwahaniaeth yn gallu bod yn denau. Gall embargo cyffredinol (fel yr un ar
Irac
yn y cyfnod a arweiniodd at
Ryfel Irac
neu'r embargo
Israelaidd
ar
Lain Gaza
) gael yr un effaith yn union a gwarchae (
blockade
).