Seiclwraig o Gymru yw Eluned King (ganwyd 1 Awst 2002 ). [1] Mae hi'n dod o Abertawe yn wreiddiol ac aeth i Ysgol Gyfun G?yr . Ers 2020 mae hi wedi bod yn byw ym Manceinion lle mae'n hyfforddi gyda uwch academi seiclo Prydain. [2]
Mae hi wedi bod yn aelod o dim seiclo Prydain ers yr oedd hi'n 16 mlwydd oed. [3] Fe enillodd hi'r fedal efydd yn y ras bwyntiau menywod yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 . [4]