Elis James
|
---|
|
Ganwyd
| 3 Tachwedd 1980
Caerfyrddin
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| actor
, digrifwr stand-yp
|
---|
Gwlad chwaraeon
| Cymru
|
---|
Digrifwr ac actor Cymreig yw
Elis James
(ganwyd
3 Tachwedd
1980
) a fagwyd yng
Nghaerfyrddin
. Yn ddiweddarach aeth i fyw yng
Nghaerdydd
ac mae nawr yn byw yn
Llundain
. Mae'n siaradwr
Cymraeg
ac mae wedi perfformio yn Gymraeg a Saesneg.
[1]
Ganwyd James yn
Hwlffordd
a symudodd y teulu i Gaerfyrddin pan oedd yn 11 mlwydd oed.
[2]
[3]
Mynychodd
Ysgol Gyfun Bro Myrddin
.
[4]
Roedd ei fam yn gweithio gyda thad y digrifwr Cymreig
Rhod Gilbert
a mam y cerddor Cymreig
Euros Childs
.
[5]
Cyn dod yn ddigrifwr proffesiynol, fe gafodd James amryw o swyddi, yn cynnwys gwaith dros dro, gwaith elusennol a gwaith rhan-amser mewn caffi.
[3]
Esboniodd James yn 2012:
... Fe wnes i waith swyddfa arferol a ro'n i'n ofnadwy am wneud y gwaith?ges i'r sac unwaith am ddiogi, a fydden i yn dweud celwydd yn gyson i ddod mas o drwbl cyn anghofio pa gelwydd ddwedes i ac felly gwneud y sefyllfa'n waeth. Fe wnes i un job dros dro lle o'n i allu gwneud y gwaith mewn hanner awr felly o'n i'n cymryd llyfrau mewn a darllen pan nad oedd y bos yn edrych.
[3]
Dechreuodd James ei yrfa comedi yn 2005, ond fe aeth i weithio'n llawn amser fel digrifwr yn 2008.
[3]
[6]
Cyn symud i gomedi yn llawn amser, roedd James yn gitarydd i'r band indi/pync o Gaerdydd, Heck, gyda'r canwr blaen Jemma Roper.
[7]
Recordiodd y band EP a chael eu chwarae ar BBC 6 Music,
BBC Radio Wales
a sioe Cymru o BBC Introducing, a ddarlledwyd ar
Radio 1
. Fe wnaethon nhw berfformio yn nosweithiau bandiau newydd trefnwyd gan yr
NME
.
[8]
Yn sioe fyw
Chris Corcoran's Committee Meeting
o 2009 roedd James yn chwarae cymeriad Rex Jones, hen ofalwr oedd yn ol-Farcsydd gydag obsesiwn ag iechyd a diogelwch. Cynhaliwyd y sioe, a greuwyd gan y digrifwr Cymreig
Chris Corcoran
, am dair blynedd yng Nghanolfan Gelfyddydol y Muni. Yn 2014, esboniodd Corcoran: "Fe fydden ni'n ysgrifennu pob sioe o'r dechrau mewn pum diwrnod a'r tro cyntaf fydden ni'n ei berfformio byddai o flaen y gynulleidfa".
[9]
Cefnogodd Rhod Gilbert ar daith drwy wledydd Prydain o'i sioe, "
Rhod Gilbert and the Award-Winning Mince Pie
", yn 2010. Drwy gefnogi Gilbert, cafodd James y profiad o berfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr o dros 1,500 o bobl ac fe ddywedodd yn ddiweddarach ei fod yn teimlo fel "seren bop" pan oedd yn cerdded ar y llwyfan.
[5]
Perfformiodd James ei sioe "
Daytripper
" yn Ffrinj
G?yl Caeredin
2010.
[10]
Fe wnaeth James a Corcoran berfformio yn sioe "gorau o" wedi ei seilio ar sioe
Chris Corcoran's Committee Meeting
, yn cynnwys y sioe radio
Social Club FM
, yn Ffrinj
G?yl Caeredin
2012. Fe wnaeth y sioe dderbyn anrhydedd 'Pick of the Fringe' papur y
Guardian
a arweiniodd at wneud peilot teledu
The Committee Meeting
ar ol i gwmni gynhyrchu Tiger Aspect ddangos diddordeb.
[9]
Yn 2012, mewn ymateb i gwestiwn yn 2012 yn gofyn a oedd gwahaniaeth rhwng comedi Saesneg a Chymraeg, dywedodd James:
Mae yna wahaniaethau, er yn fach, ond mae'r cyfeiriadau yn amlwg yn wahanol. Ond ddim mor wahanol fel nad yw comediwyr Cymreig yn gallu bod yn llwyddiannus yn Lloegr, a'r ffordd arall rownd. Mae yna ddigonedd o wahaniaeth rhanbarthol yn hiwmor Seisnig. Fe fydden i'n addasu fy neunydd os o'n i yn Aberystwyth i gymharu a Manceinion, ond ddim yn sylweddol.
[11]
James oedd cyflwynydd perfformiad Gala G?yl Gomedi Machynlleth yng
Ng?yl y Gelli
yn Mai 2014. Perfformiodd gyda'i bartner Isy Suttie hefyd, ynghyd a'r comediwyr Henry Paker a Mike Wozniak.
[12]
Yng Ng?yl Gomedi Machynlleth 2015, perfformiodd James sioe newydd
Work in Progress
yn ogystal a set yn Gymraeg.
[13]
Chwaraeodd James gymeriad Rex Jones yn sioe radio
Chris Corcoran's Committee Meeting
,
Social Club FM
, a ddarlledwyd yn wreiddiol yn Awst 2011 ar
BBC Radio Wales
a redodd am ddwy flynedd.
[9]
[14]
Ar 16 Chwefror 2014, cychwynnodd James sioe radio yn y bore ar XFM, lle mae'n cyd-gyflwyno gyda'r digrifwr John Robins.
[15]
Ers 2014, mae James wedi cyd-ysgrifennu a chyd-serennu yn y sioe sgets
Here Be Dragons
ar BBC Radio Wales. Enillodd y sioe wobr Sony Award (Efydd) yn 2014 am y Comedi Gorau.
[16]
Cyflwynodd James benodau cynnar o'r sioe gerddoriaeth
Bandit
ar
S4C
[17]
ac mae wedi ymddangos ar elfennau o'r rhaglen i ddysgwyr Cymraeg,
Hwb
.
[18]
Yn 2013, roedd
The Committee Meeting
yn rhan o "Comedy Feeds" BBC Three, cyfres o beilotau comedi teledu oedd ar gael ar y BBC iPlayer yn unig.
[19]
Roedd y peilot yn serennu James a Corcoran, gyda pherfformiwr gwadd Colin Baker. Fe'i darlledwyd ar BBC One Wales yn Awst 2014.
[9]
Yn 2014, ymddangosodd James fel Nigel ym mhennod 3 o ail gyfres
Crackanory
, ar sianel deledu Dave.
Hefyd yn 2014, fe ymddangosodd James ym mheilot "Comedy Feed"
Josh
, yn serennu Josh Widdicombe. Darlledwyd cyfres lawn, chwe phennod, o
Josh
ar BBC Three rhwng 11 Tachwedd a 16 Rhagfyr 2015.
[20]
Comisiynodd BBC Three ail gyfres lawn o
Josh
, a ryddhawyd ar lein yn Hydref 2016 wedi ei BBC Three newid i fod yn sianel ar lein yn unig yn Chwefror 2016. Mae trydydd cyfres ar y gweill.
[21]
Mae James wedi ffilmio prif ran mewn comedi sefyllfa
600 Days
i'r BBC, ail-enwyd yn
Crims
.
[22]
[23]
Darlledwyd y comedi ar BBC Three yn gynnar yn 2015.
[24]
Yn Medi 2015 perfformiodd ei sioe stand-up llawn cyntaf yn Gymraeg a fe'i recordiwyd i'w ddarlledu ar S4C ar 19 Rhagfyr 2015.
[25]
[26]
Yn Hydref 2017 ymddangosodd mewn cyfres pedwar rhan ar BBC Two Wales lle roedd yn teithio o gwmpas Cymru gyda'r digrifwr
Miles Jupp
.
[27]
Enillodd James y Comedi Gorau yn Ngwobrau Cenedlaethol Radio Myfyrwyr yn 2006.
[28]
Mae James yn ddilynwr brwd o bel-droed ac mae'n cefnogi
Clwb Pel-droed Dinas Abertawe
. Fe esboniodd yn 2010 mae'r peth gwaethaf am fod yn ddigrifwr oedd bod gemau Dinas Abertawe yn cael eu chwarae ar yr un amser a'i sioeau byw. Fe ddywedodd yn 2010 mai eu hoff ser chwaraeon oedd
George Best
a
Muhammad Ali
.
[10]
Mae gan James M.A. yn Hanes Cymru.
[29]
Mae mewn perthynas gyda'r actores, digrifwraig a'r cerddor Isy Suttie.
[30]
Mae'r cwpl yn byw yn Ne Llundain ac mae ganddynt ferch, ganwyd yn 2014.
[31]
[32]
- ↑
"Elis James on : Chortle : The UK Comedy Guide"
,
Comedians database
(Chortle.co.uk)
,
http://www.chortle.co.uk/comics/e/33351/elis_james
, adalwyd 6 Mehefin 2013
- ↑
Sylw Elis James ar Twitter
(11 Awst 2016).
- ↑
3.0
3.1
3.2
3.3
"Don't mind your ps and qs: Elis James"
.
WalesOnline
. Media Wales Ltd. 4 Chwefror 2012
. Cyrchwyd
15 Tachwedd
2014
.
- ↑
Lee MacGregor.
Carmarthen comedian Elis James to star in new BBC Three comedy Crims
(en)
, Carmarthen Journal, 7 Ionawr 2015. Cyrchwyd ar 30 Mehefin 2016.
- ↑
5.0
5.1
"Elis James has Rhod Gilbert to thank for career leg up"
.
WalesOnline
. Media Wales Ltd. 18 Ionawr 2011
. Cyrchwyd
15 Tachwedd
2014
.
- ↑
Elis James
, Comedy CV
,
http://comedycv.co.uk/elisjames/index.html
, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
- ↑
"Heck"
.
Myspace
. Cyrchwyd
26 Gorffennaf
2015
.
- ↑
"New bands set for new London club night"
. NME. 1 Awst 2007.
- ↑
9.0
9.1
9.2
9.3
Chris Corcoran (8 Awst 2014).
"Making The Committee Meeting"
.
BBC Wales
. BBC
. Cyrchwyd
15 Tachwedd
2014
.
- ↑
10.0
10.1
Jonny Abrams (4 Awst 2010).
"Edinburgh Fringe Grilling: Elis James"
.
Sports.co.uk
. Sports.co.uk
. Cyrchwyd
15 Tachwedd
2014
.
- ↑
Gig In A Castle ? Isy Suttie & Elis James interview
,
British Comedy Guide
, 21 Mehefin 2012
,
http://www.comedy.co.uk/live/preview/powis_castle_isy_suttie_elis_james_gig/
, adalwyd 6 July 2013
- ↑
"ISY SUTTIE, HENRY PAKER, MIKE WOZNIAK AND ELIS JAMES"
.
Hay Festival
. Hay Festival of Literature & the Arts Ltd. 31 Mai 2014
. Cyrchwyd
15 Tachwedd
2014
.
- ↑
"What's On"
.
machcomedyfest.co.uk
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2015-03-07
. Cyrchwyd
26 July
2015
.
- ↑
Social Club FM ? Production Details
, British Comedy Guide
,
http://www.comedy.co.uk/guide/radio/social_club_fm/details/
, adalwyd 6 Mehefin 2013
- ↑
"XFM Announces New Weekend Shows"
. XFM. 12 Chwefror 2014. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2014-11-29
. Cyrchwyd
2015-12-18
.
- ↑
"2014 RADIO ACADEMY AWARDS WINNERS ANNOUNCED"
. Radio Academy Awards. 12 Mai 2014. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2015-06-10
. Cyrchwyd
2015-12-18
.
- ↑
Preview: Chris Corcoran and Elis James at Maesteg Town Hall
, Cardiff:
WalesOnline
, 2 July 2009
,
http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/preview-chris-corcoran-elis-james-2092019
, adalwyd 6 July 2013
- ↑
Hwb ? "Y Wers Gymraeg" (14/4/13) Pen. 31 / Eps. 31
ar
YouTube
- ↑
"The Committee Meeting"
,
Comedy Feeds, 2013
(
BBC Three
), 2013
,
http://www.bbc.co.uk/programmes/p01by7cb
, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
- ↑
"Josh"
.
BBC Three
. BBC. Rhagfyr 2015.
- ↑
"BBC Three orders a full series of Josh"
. Radio Times. 17 Rhagfyr 2015.
- ↑
"Elis James to star in BBC Three prison comedy"
. Chortle. 20 Mawrth 2014.
- ↑
"BBC - Crims is a new BBC Three comedy airing early January 2015 - Media centre"
.
BBC
.
- ↑
"BBC Three - Schedules, Sunday 11 Ionawr 2015"
.
BBC
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2015-09-24
. Cyrchwyd
2015-12-18
.
- ↑
Elis James a chomedi Cymraeg
, BBC Cymru Fyw; Adalwyd 19 Rhagfyr 2015
- ↑
Elis James yn chwerthin yn Gymraeg ar S4C
; Adalwyd 19 Rhagfyr 2015
- ↑
BBC Two - James and Jupp
- ↑
Coming Soon To The Glee Club : Elis James
,
The Glee Club
,
https://glee.co.uk/index.php?id_page=169&id_performer=3395
, adalwyd 6 July 2013
- ↑
"BBC One - Whose Coat is That Jacket?, Episode 2"
.
BBC
. Cyrchwyd
26 Gorffennaf
2015
.
- ↑
Owen, Rhodri
(6 October 2011),
"Why Isy Suttie ? Peep Show's Dobby ? is learning Welsh"
,
BBC News ? South West Wales
(
BBC News
)
,
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-15173041
, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
- ↑
Day, Elizabeth (16 Mawrth 2013),
"Isy Suttie: 'I like to explore love… and throw in stuff about cagoules'"
,
The Observer
(London: Guardian News and Media),
ISSN
0029-7712
,
http://www.guardian.co.uk/stage/2013/mar/16/isy-suttie-peep-show-love-feature
, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
- ↑
Jay Richardson (12 Rhagfyr 2014).
"Isy Suttie writes her memoir"
.
Chortle
.