Elfen gemegol
yn seithfed rhes y
tabl cyfnodol
ydy
elfen cyfnod 7
. Mae'r tabl cyfnodol wedi'i osod mewn rhesi taclus er mwyn dangos patrymau yn ymddygiad y gwahanol elfennau, wrth i'w
rhifau atomig
gynyddu. Pan fo'r ymddygiad yn cael ei ailadrodd, dechreuir rhes newydd. Mae'r elfennau sydd ag ymddygiad tebyg, felly, o dan ei gilydd, mewn colofnau.
Mae pob elfen sydd yn y cyfnod hwn yn
ymbelydrol
(Saesneg:
radioactive
). Yn eu plith fe geir yr elfen drymaf sydd i'w chael yn naturiol yn y
Ddaear
sef,
wraniwm
. Mae'r rhan fwyaf gweddill elfennau'r cyfnod yma wedi eu creu'n artiffisial mewn
labordy
. Ceir tunelli o rai (megis
plwtoniwm
) ond mae eraill yn ofnadwy o brin, a dim ond microgramau (neu lai!) ohonyn nhw wedi eu cynhyrchu dros y blynyddoedd. Ychydig
atomau
'n unig sydd wedi'u cynhyrchu o rai elfennau.
Sylwer fod y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys y
actinidau
.
Dyma'r elfennau hynny sy'n perthyn i gyfnod 7:
Categoriau o elfennau yn y Tabl Cyfnodol
|
Mae
lliw
y rhif atomig yn dangos beth ydy stad yr elfen o dan pwysedd a thymheredd safonol (0 °C ac 1 atm)
Solidau
(lliw du)
|
Hylifau
(gwyrdd)
|
Nwyon
(lliw coch)
|
Anhysbys
(llwyd)
|
|
|