Cyfundeb o
Eglwysi Uniongred
yw
Eglwysi'r tri cyngor
, neu Eglwysi Uniongred Orientalaidd. Mae'r eglwysi yma mewn cymundeb a'i gilydd ond nid a'r
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
.
Fe'i gelwir yn Eglwysi'r tri cyngor oherwydd eu bod yn cydnabod y tri Cyngor Eglwysig cyntaf,
Cyngor Cyntaf Nicaea
,
Cyngor Cyntaf Caergystennin
a
Cyngor Ephesus
, ond yn gwrthod penderfyniadau
Cyngor Chalcedon
. Cynhaliwyd
Cyngor Chalcedon
yn
451
dan nawdd yr
Ymerawdwr Bysantaidd
Marcianus
. Trafodwyd y cwestiwn a oedd gan Grist natur ddynol a natur ddwyfol, neu a oedd ei natur ddynol wedi ei lyncu yn y dwyfol. Cytunodd y cyngor ar athrawiaeth ‘dwy natur mewn un person’, ond gwrthododd patriarchiaid
Alexandria
,
Antioch
a
Jeriwsalem
dderbyn hyn, gan ddechrau'r ymraniad rhwng Eglwysi'r tri cyngor a'r eglwysi eraill. Cred Eglwysi'r tri cyngor mewn un natur, neu
monoffisiaeth
.
Mae'r eglwysi yma yn cynnwys: