Eglwys gaderiol
uniongred
Rwsiaidd
yng nghanol
Moscfa
, ar y
Sgwar Coch
, yw
Eglwys Gadeiriol Sant Basil
. Hon yw un o henebion mwyaf cyfarwydd Rwsia. Enw swyddogol yr eglwys yw
Eglwys Cyfryngdod y Forwyn Fair ar y Ffos
(
Rwsieg
Собо?р Покрова?, что на Рву?
/
Sobor Pokrova, chto na Rvu
).
Adeiladwyd yr eglwys gan
Ifan IV
rhwng
1555
a
1561
er parch am oresgyniad dinas
Kazan
a Tatariaid y Volga. Yn ol chwedl poblogaidd (sy ddim yn wir), dallodd Ifan IV y pensaer,
Postnik Yakovlev
fel na byddai'n cynllunio adeilad godidocach na'r gadeirlan.
Ychwanegwyd capel ar ochr ddywreiniol y safle dros fedd
Sant Basil y Ffwl Sanctaidd
gan Tsar
Fedor Ivanovich
ym
1588
. Y capel hwnnw yw ffynhonnell enw poblogaidd yr holl eglwys. Heddiw mae'n cynnwys naw capel ar yr un safle. Cydnabyddir Eglwys Gadeiriol Sant Basil heddiw fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.