한국   대만   중국   일본 
Efengyl - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Efengyl

Oddi ar Wicipedia
II

Testun crefyddol efengylaidd sy'n honni adrodd hanes am Iesu o Nasareth yw efengyl . Cysylltir y gair yn bennaf a'r Pedair Efengyl a geir ar ddechrau'r Testament Newydd yn y Beibl Cristnogol, ond mae'n derm a geir yn nheitlau sawl testun arall hefyd.

Daw'r gair o'r Groeg "euangelion" a'r Lladin "evangelium") a gelwir y pedwar llyfr cyntaf yn y Testament Newydd yn "Efengylau" a'r pedwar Disgybl yn "Efengylwyr". Mae'r cyfieithiad Saesneg "Gospel", fodd bynnag, yn tarddu o'r hen Saesneg "Newyddion Da".

Y Pedair Efengyl [ golygu | golygu cod ]

Y Pedair Efengyl canonaidd yw:

Efengylau eraill [ golygu | golygu cod ]

Yn y llenyddiaeth apocryffaidd a gysylltir a'r Testament Newydd ond nas derbynnir fel rhan o'r llyfr hwnnw bellach, ceir sawl efengyl, e.e. Efengyl Nicodemus , a fu'n destun poblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol . Mae testunau eraill yn cynnwys efengylau apocryffaidd a briodolir i Philip , Mathew , Sant Pedr , ac eraill. Math o efengyl hefyd yw'r testun apocryffaidd Cymraeg Canol Mabinogi Iesu Grist .

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

  • Y Beibl Cymraeg Newydd
  • The Apocryphal New Testament , gol. a chyf. M. R. James (Rhydychen, 1924; sawl argraffiad diweddarach)
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .