Cyn-
Aelod Seneddol
Seisnig ydy
Edwina Currie
(ganwyd
Edwina Cohen
;
13 Hydref
1946
). Fe'i hetholwyd fel Aelod Seneddol
Y Blaid Geidwadol
ym 1983. Bu'n Weinidog Iechyd Ieuaf am ddwy flynedd, cyn ymddiswyddo ym 1988 oherwydd anghydfod yngl?n a
salmonela
mewn
?y
. Erbyn i Currie golli ei sedd seneddol ym 1997, roedd hi wedi dechrau ar yrfa newydd fel nofelydd a darlledwraig.
Ar 1 Gorffennaf 1972, priododd Ray Currie, cyfrifydd, yn
Barnstaple
,
Dyfnaint
. Roedd Edwina a Ray yn destun rhaglen ddogfen ar y BBC yng nghyfres
The Other Half
a ddarlledwyd ym mis Mawrth 1984. Cawsant ddau blentyn. Ysgarodd y cwpl yn 1997. Yn ystod y briodas cafodd Currie garwriaeth gyda
John Major
, a fyddai ddiweddarach yn Brif Weinidog. Datgelwyd hyn gan Currie ym mis Medi 2002.
Ar 24 Mai 2001 yn
Southwark
priododd John Jones, ditectif wedi ymddeol a gyfarfu ar ei rhaglen radio yn 1999.
[1]
Mae'n byw yn
Whaley Bridge
, Swydd Derby.
[2]