Llenor yn yr iaith Gymraeg
, a anwyd yn
Llandegla-yn-Ial
yn yr hen
Sir Ddinbych
, yn fab i chwarelwr (
31 Mai
1880
?
9 Hydref
1967
) oedd
Edward Tegla Davies
. Fel
Tegla
roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger
Rhuthun
yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i
Goleg Didsbury
,
Manceinion
ar ol cyfnod o 4 mlynedd yn
ddisgybl-athro
ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol
Bwlchgwyn
, ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel
gweinidog
Wesla
am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn
bregethwr
dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r
wasg Gymraeg
ac yn olygydd ar
Y Winllan
(
1920
-
1928
), cylchgrawn y Wesleaid, a'r
Efrydydd
(
1931
-
1935
). Golygodd
Gyfres Pobun
am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i
T. Gwynn Jones
ac
Ifor Williams
. Fe'i gladdwyd yn Nhregarth, ger Bethesda.
Gwrthododd gynnig i dderbyn
OBE
, gan ysgrifennu at ffrind, 'Ni allaf ddychmygu fy hun yn "Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig" pan oeddwn wedi ymrwymo fy mywyd i wasanaethu Un a fu farw ar groes'. Ond derbyniodd ddau anrhydedd o
Brifysgol Cymru
, gradd MA er anrhydedd ym 1924 a DLitt ym 1958, am ei gyfraniad at lenyddiaeth Gymreig.
[1]
Ysgrifennai
ar gyfer plant
ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys
nofelau
, sawl cyfrol o
straeon byrion
,
ysgrifau
a
hunangofiant
. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid a phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.
Llyfrau i blant yn bennaf
[
golygu
|
golygu cod
]
- Pennar Davies,
Edward Tegla Davies
, yn y gyfres
Writers of Wales
(1983)
- Islwyn Ffowc Ellis,
Dirgelwch Tegla
(1977)
- Islwyn Ffowc Ellis (gol.),
Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd
(1956)
- Huw Ethall,
Cofiant Tegla
(1980)
- Mairwen a Gwynn Jones (gol.),
Dewiniaid Difyr
(Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan
Dyddgu Owen
, tt.97-103.
ISBN 0850887372
- R.M. Jones,
Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936
(Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".