Cemegydd
o'r
Almaen
oedd
Eduard Buchner
(
20 Mai
1860
-
13 Awst
1917
). Roedd yn frodor o
Munchen
,
Bafaria
.
Yn 1897, dechreuodd Buchner astudio gallu echdynion o furum i
eplesu
siwgr er gwaethaf absenoldeb celloedd burum byw. O fewn cyfres o arbrofion ym
Mhrifysgol Berlin
, arsylwodd fod y siwgr yn cael ei eplesu heb gelloedd burum yn y gymysgedd. Enwodd yr
ensym
a achosodd yr eplesiad
swcros
yma yn "
symas
". Yn 1907 derbyniodd Buchner y
Wobr Nobel
am
Gemeg
am y gwaith ymchwil hwnnw, ac ers hynny mae'r rhan fwyaf o ensymau, yn dilyn esiampl Buchner, wedi cael eu henwi yn ol yr adwaith maent yn ei gynnal.