Edda Mussolini
|
---|
|
Ganwyd
| 1 Medi 1910
Forli
|
---|
Bu farw
| 9 Ebrill 1995
Rhufain
|
---|
Man preswyl
| Villa Torlonia
|
---|
Dinasyddiaeth
| yr Eidal
, Teyrnas yr Eidal
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, cymdeithaswr
|
---|
Tad
| Benito Mussolini
|
---|
Mam
| Rachele Mussolini
|
---|
Priod
| Galeazzo Ciano
|
---|
Plant
| Fabrizio Ciano, Marzio Ciano
|
---|
Perthnasau
| Arnaldo Mussolini, Edvige Mussolini, Anna Maria Villani Scicolone, Carla Maria Puccini, Alessandro Italico Mussolini, Vito Mussolini, Alessandra Mussolini
|
---|
Gwobr/au
| Medal Dewrder Milwrol
|
---|
Roedd
Edda Mussolini
(
1 Medi
1910
-
9 Ebrill
1995
) yn ferch i'r unben o'r Eidal
Benito Mussolini
. Priododd a Gweinidog Materion Tramor
yr Eidal
, Galeazzo Ciano. Yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
, gwirfoddolodd Edda i wasanaethu gyda'r
Groes Goch
o'r Eidal. Roedd hi ar llong ysbyty gafodd ei suddo gan awyrennau o Loegr ond goroesodd a pharhaodd i weithio i'r Groes Goch tan 1943. Yng Ngorffennaf 1943, pleidleisiodd ei g?r, Galeazzo Ciano, yn erbyn Mussolini yn y Prif Gyngor Ffasgaidd. Cafodd ei arestio, ei roi mewn llys barn, a'i ddienyddio am frad. Dihangodd Edda Ciano i'r
Swistir
gan smyglo oddi yno ddyddiaduron ei g?r a sgwennwyd yn ystod y rhyfel. Cafodd ei harestio a'i chadw yn y carchar ar Ynys Lipari ar ol dychwelyd i'r Eidal. Ar 20 Rhagfyr 1945, fe'i dedfrydwyd i ddwy flynedd o garchar am gynorthwyo
Ffasgaeth
.
[1]
Ganwyd hi yn
Forli
yn 1910 a bu farw yn
Rhufain
yn 1995. Ei priod oedd Galeazzo Ciano.
[2]
[3]
[4]
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Edda Mussolini yn ystod ei hoes, gan gynnwys;
Medal Dewrder Milwrol