Y symbol eciwmenaidd a ddefnyddir gan
Gyngor Eglwysi'r Byd
a sefydliadau eraill. Mae'n seiliedig ar stori
Iesu
ym
Mor Galilea
, ac yn darlunio'r Eglwys Gristnogol yn gwch gyda'r groes yn hwylbren iddo.
Yr egwyddor neu'r nod o hyrwyddo undod ymhlith holl eglwysi
Cristnogol
y byd, neu ymdrechion i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad rhwng gwahanol enwadau, yw
eciwmeniaeth
.
[1]