- Erthygl am y dalaith yw hon. Am brifddinas y dalaith gweler
Durango, Durango
. Gweler hefyd
Durango (gwahaniaethu)
.
Un o 31
talaith ffederal
Mecsico
yw
Durango
. Mae ganddi boblogaeth o 1,754,754
(2015)
[1]
. Mae ganddi'r dwysedd poblogaeth ail isaf yn y wlad (ar ol
Baja California Sur
). Dinas
Durango
yw prifddinas y dalaith. Mae'r rhan fywaf o'r dalaith yn fynyddig iawn gyda llawer o goedwigoedd trwchus. Gorwedd mynyddoedd y
Sierra Madre Occidental
yng ngorllewin a chanolbarth y dalaith. Ceir llawer o fwynau yn y mynyddoedd hynny, yn cynnwys
arian
, a dyma un o'r rhesymau pam fod y
Sbaenwyr
mor awyddus i feddianu'r ardal. Mae'r ardal gwelyau mwyn yn ymestyn i'r gogledd i dalaith
Chihuahua
ac i'r de i
Zacatecas
. Ceir basnau anial anferth yn ardal Laguna sy'n cael eu
dyfrhau
gan
Afon Nazas
. Mae prif gnydau'r ardal yn cynnwys
cotwm
,
gwenith
,
?d
,
alfalfa
, ffa,
sorghum
a llydiau eraill. Yn ogystal a
ffermio
, y prif ddiwydiannau yw
coedwigaeth
a ransio.
Lleoliad talaith Durango ym Mecsico
Mae Durango'n enwog am ei
sgorpionau
.
Ymsefydlodd y Sbaenwr
Francisco de Ibarra
yn Durango, a oedd yn rhan o dalaith anferth
Nueva Vizcaya
, yn
1563
: sefydlodd ddinas Durango a'i henwi ar ol ei dref enedigol
Durango
, yng Ngwlad y Basg. Ond gwrthwynebodd y bobloedd brodorol y trefedigaethwyr Sbaenaidd ac o hynny ymlaen maent wedi brywdro i gael elfen o ymreolaeth ar eu materion eu hunain. Yn
1823
, yn fuan ar ol diwedd
Rhyfel Annibyniaeth Mecsico
, daeth Durango yn dalaith ffederal.
Mae enwogion Durango yn cynnwys yr arweinydd chwyldroadol
Pancho Villa
a'r actores
Dolores del Rio
.
- ↑
http://www.inegi.org.mx/sistemas/consulta_resultados/zip/iter2010/iter_10xls10.zip
.