한국   대만   중국   일본 
Dora the Explorer - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Dora the Explorer

Oddi ar Wicipedia
Logo Dora the Explorer

Cymeriad animeiddiedig mewn cyfres deledu addysgol o America yw   Dora the Explorer . Crewyd y cymeriad gan Chris Gifford, Valerie Walsh Valdes ac Eric Weiner. Daeth  Dora the Explorer  yn gyfres deledu yn 2000, ac mae'r rhaglen yn parhau ar rwydwaith deledu  Nickelodeon , sy'n cynnwys sianel Nick Jr.. Darlledwyd fersiwn gyda throslais Sbaeneg am y tro cyntaf ym mis Medi 2006, fel rhan o floc  Nick en espanol  ar sianel Telemundo. Ers Ebrill 2008, mae'r fersiwn yma wedi parhau ar Univision fel rhan o'r bloc  Planeta U .

Mae addasiad ffilm 'gweithredu byw' yn yr arfaeth gan  Paramount Pictures  a bwriedir ei rhyddhau ym mis Awst 2019. [1]

Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau Dora, merch Latina saith mlwydd oed. Mae'n mynd ar drywydd perthnasol i weithgaredd sydd wedi cymryd ei sylw, a hynny yng nghwmni sach cefn porffor sy'n gallu siarad a mwnci o'r enw Boots (sydd wedi'i enwi ar ol ei esgidiau coch). Mae pob pennod yn cyflwyno cyfres o weithgareddau neu ddigwyddiadau, ac mae disgwyl i Dora a Boots, gyda chymorth y gynulleidfa, ddatrys posau sy'n seiliedig ar rigymau, yr iaith Sbaeneg, neu gyfri.

O dro i dro, mae Dora yn dod ar draws Swiper, llwynog sy'n lladrata. Er mwyn ei atal, rhaid i Dora ddweud "Swiper no swiping" dair gwaith. Weithiau mae disgwyl i'r gynulleidfa helpu Dora a Boots i ddod o hyd i'r eitemau sydd wedi'u dwyn. Maen nhw weithiau yn gorfod wynebu hen ellyll blin - "Grumpy Old Troll" - sy'n byw o dan bont y mae'n rhaid iddyn nhw ei chroesi. Mae'r ellyll yn rhoi rhigwm iddyn nhw ei ddatrys, eto gyda chymorth y gynulleidfa, cyn eu bod yn cael croesi.

Mae pob pennod yn diweddu gyda Dora yn llwyddo i gyrraedd y nod, ac yn canu can o lawenydd gyda Boots. Mae'r gyfres wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg, Cantonaidd, Iseldireg, Gwyddeleg, Hindi, Daneg, Tyrceg. Nid yw wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Kit, Borys (October 23, 2017). " ' Dora the Explorer' Movie in the Works With Nick Stoller (Exclusive)" . The Hollywood Reporter . Cyrchwyd October 23, 2017 .