Sect
Gristnogol
yng nghyfnod
yr Ymerodraeth Rufeinig
oedd
Donatiaeth
a ymffurffiodd yng
Ngogledd Affrica
yn y 4g, dan arweiniad yr Esgob
Donatus Magnus
, ac a oroesodd hyd at y 7g. Sbardunwyd y sgism gan etholiad Caecilian yn Esgob
Carthago
(a leolir heddiw yn
Nhiwnisia
) yn 312, dewis a wrthwynebwyd gan rai am iddo gael ei gysegru gan "fradychwr" i'r ffydd, hynny yw un a ildiodd gopiau o'r
Beibl
i'r awdurdodau yn ystod erledigaeth y Cristnogion gan yr Ymerawdwr
Diocletian
.
[1]
[2]
Yn hanesyddol, mae Donatiaeth yn un o sawl mudiad sgismatig yn
yr Eglwys Fore
, megis
Montaniaeth
a
Nofatianaeth
yn
Asia Leiaf
a
Meletiaeth
yn
yr Aifft
. Dalient taw hwynt-hwy ydoedd yr unig wir eglwys, a dim ond y rhai sy'n byw bywyd di-fai sy'n perthyn i'r eglwys, ac nid arddelant ordinhadau unrhyw sect arall. Gwrthodasant ymyrraeth wladol mewn materion eglwysig.
[3]