Bardd Cymraeg yw Donald Evans (ganed 1940 mewn fferm ar lan Banc Sion Cwilt , Ceredigion ). Mae’n awdur 17 o gyfrolau barddoniaeth a dwy gyfrol o atgofion.
Enillodd y gadair a'r goron yn yr un Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r cylch 1977 ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980 . Bu’n olygydd barddoniaeth y cylchgrawn Barn o 1989 hyd 1991. Yn 2006 enillodd ddoethuriaeth am ei draethawd Egwyddorion Beirniadol Awdl yr Eisteddfod Genedlaethol 1955-1999 .