Dominiciaid
|
|
Enghraifft o'r canlynol
| urdd cardod, yr urdd cyntaf, sefydliad, urdd Gatholig
|
---|
Rhan o
| Dominican Family
|
---|
Dechrau/Sefydlu
| 1216, 1215
|
---|
Prif bwnc
| lifestance organisation
|
---|
Yn cynnwys
| mynach dominicaidd, Province of Hispania of the Order of Preachers, Polish Dominican Province, Czech dominican province, Dominican Province of Slovakia, Croatian Dominican Province, Dominican Province of Our Lady of the Rosary, Q116944295, province dominicaine de France, province dominicaine de Toulouse
|
---|
Pennaeth y sefydliad
| Master of the Order of Preachers
|
---|
Sylfaenydd
| Sant Dominic
|
---|
Isgwmni/au
| Nuns of the Order of Preachers
|
---|
Pencadlys
| Basilica of Saint Sabina
|
---|
Gwladwriaeth
| yr Eidal
|
---|
Gwefan
| http://op.org/
,
https://www.osservatoredomenicano.it/
,
https://www.dominicos.org/
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Urdd mynachol yn perthyn i'r
Eglwys Gatholig
yw
Urdd y Pregethwyr
(
Lladin
:
Ordo Praedicatorum
sef "Urdd y Pregethwyr"), yn fwy adnabyddus fel y
Dominiciaid
neu
Urdd y Dominiciaid
. Sefydlwyd yr Urdd gan
Sant Dominic
yn nechrau'r
13g
.
Gelwir y Dominiciaid "y Brodyr Duon" weithiau, oherwydd eu bod yn gwisgo clogyn neu
cappa
du. Defnyddia aelodau'r urdd y llythrennau
O.P.
(
Ordinis Praedicatorum
) ar ol eu henwau.
Mae un o'r Brodyr Duon Cymreig yn gymeriad mewn cerdd gan
Dafydd ap Gwilym
. Mae'r Brodyr hyn yn atgas gan Ddafydd:
- Duw a ?yr, synnwyr a son,
- Deall y brodyr duon!
- Y rhain y sydd, ffydd ffalsddull,
- Ar hyd yr hollfyd yn rhull,
- B?l gwfaint, bobl ogyfoed,
- Bob dau dan yr iau erioed.
[1]
Mae'r mynach yn rhybuddio'r bardd i ddiwygio ei hun a pheidio a'i
gerddi serch
a hel merched neu wynebu poenau
Uffern
ond mae Dafydd yn ateb yn herfeiddiol mae rheitiach i ddyn lawenhau a charu na bod yn drist a chwerw.
[2]
- ↑
Thomas Parry (gol.),
Gwaith Dafydd ap Gwilym
(Caerdydd, ail argraffiad 1963), cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 3-8.
- ↑
Gwaith Dafydd ap Gwilym
, cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 28-34.