Ers 1988 mae
14 Mawrth
wedi cael ei ddynodi'n
ddiwrnod rhyngwladol π
sy'n ddathliad byd-eang. Deilliodd y syniad o gael
diwrnod
pi
(weithiau:
diwrnod pai
) o
San Francisco
,
Unol Daleithiau'r America
, lle defnyddir y fformat 'mis/dydd/blwyddyn' ar gyfer dyddiadau; o ddilyn y patrwm hwn, mae
14 Mawrth
yn cyfateb i dri digid cynta'r rhif (3.14).
Hyrwyddwyd y diwrnod hwn gan y mathemategydd
Gareth Ffowc Roberts
mewn cyfrolau a phapurau megis
The Guardian
.
[1]
Mae'r diwrnod hefyd yn gyfle i hyrwyddo mathemateg yn gyffredinol.
[2]
I gydnabod y cysylltiad Cymreig dynodwyd 14 Mawrth yn Ddiwrnod Pai Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2015 i'w ddathlu yn flynyddol o hynny ymlaen.
Bathwyd y term, neu'r lythyren Groegaidd
π
gan Gymro o'r enw
William Jones
o Gapel Coch,
Llanfihangel Tre'r Beirdd
,
Llanfechell
, yn ei lyfr
A New Introduction to Mathematics
ym 1706. Mae'r
cysonyn mathemategol
π
(a sillefir hefyd fel 'pi' neu 'pai') yn rhif real, anghymarebol sydd yn fras yn hafal i 3.141592654 (i 9 lle degol).