Divali
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ac/Diwali_Diyas_2.jpg/220px-Diwali_Diyas_2.jpg) |
Enghraifft o'r canlynol
| g?yl, g?yl
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Yn cynnwys
| Dhanteras, Naraka Chaturdashi, Lakshmi Puja, Balipratipada, Bhai Dooj
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwladwriaeth
| India,
Ffiji
,
Gaiana
,
Mawrisiws
,
Singapor
,
Sri Lanca
,
Nepal
,
Swrinam
,
Myanmar
,
Trinidad a Thobago
,
Bangladesh
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Hyd
| 5 diwrnod
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Offrymau
Puja
ar gyfer
Divali
Mae
Divali
neu
Diwali
(
Hindi
??????
; hefyd
Deepavali
neu
Dipavali
,
Sansgrit
???????
,
Tamil
???????
) yn un o wyliau pwysicaf yn nhraddodiad yr
Hindu
, y
Jain
a'r
Sikh
sy'n para am bum diwrnod ym mis Hydref.
Neges Diwali y Prif Weinidog
Mark Drakeford
; Tachwedd 2020
Mae
Divali
(Sansgrit
Dipavali
"Rhes o oleuadau") yn symboleiddio buddugoliaeth Daioni dros Ddrygioni, Goleuni dros Dywyllwch, a chaiff lampau eu cynnal yn arwydd o obaith i'r ddynolryw. Yn nhermau
mytholeg
Hind?aidd
mae Divali'n dathlu dychweliad yr Arglwydd
Rama
wedi iddo ladd y diafol
Ravana
ar ddiwedd ei gyfnod o grwydro fel alltud am 14 blynedd (dethlir y fuddugoliaeth dros Ravana ar
Dussehra
, 19-21 diwrnod cyn Divali). Canolbwynt amlycaf y dathlu yw'r lampau a goleuadau o bob math sydd yn llosgi yn ystod yr ?yl. Erbyn heddiw mae
tan gwyllt
yn rhan o'r dathlu hefyd mewn rhai ardaloedd yn India.
Mae Divali yn parhau am bum diwrnod ar ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd. Yn wreiddiol roedd hi'n ?yl ffrwythlondeb ac fe'i dethlir felly o hyd mewn rhannau o India, yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig. Hyd at drothwy'r
19g
roedd yr agwedd honno'n eithaf amlwg ac arferai ffermwyr fynd i'r twmpathau gwrtaith i'w haddoli ag offrymau o flodau, ffrwythau a chanhwyllau.
Mae'r diwrnod cyntaf yn gysegredig i'r duwiesau
Lakshmi
a
Parvati
a chedwir y ffenestri yn agored er mwyn croesawu'r duwiesau hyn i'r t?. Hon yw prif ddiwrnod y
castiau
masnachol ac ni chedwir cyfrifon ar y diwrnod hwn. Mae masnachwyr yn pentyrru'r pres sydd wedi dod i mewn ar ben y llyfrau cownt ac yn rhoi delw o Lakshmi ar ben hynny ac yn ei haddoli fel duwies golud a llewyrch. Mae eraill yn lliwio darnau pres 1
rupee
a phowdr fermilion a'u rhoi mewn pentwr o flaen delw Lakshmi.
Addolir y duw Ganesha, mab Shiva a Parvati, yn ystod Diwali
Mae'r ail ddiwrnod yn gysegredig i amblo, ac yn arbennig gamblo a
disiau
. Mae dynion a merched fel ei gilydd yn ymuno yn y gamblo (fel rheol am symiau bach, symbolaidd), sy'n dathlu cyfamod y duw
Shiva
a'i wraig y dduwies
Parvati
. Mae'r merched yn tynnu lluniau geometrig lliwgar a elwir
rangoli
ar y llawr o flaen trothwy'r cartref neu yn y cwrt.
Diwrnod y
lleuad
lawn yw hyn. Mae'n ddathliad o fuddugoliaeth
Vishnu
dros
Bali
(Naraka), brenin y dieifl (ond mewn rhannau o dde India Bali ei hun sy'n derbyn addoliad). Enw arall ar y diwrnod yw
Lakshmi puja
, gan fod y dduwies yn cael ei haddoli gyda'r nos ar ol ymprydio'n ystod y dydd. Yn nhalaith
Bengal
y dduwies
Kali
a addolir.
Dyma'r
Divali
go iawn, uchafbwynt yr ?yl, pan oleuir rhesi o bowlenni crochenwaith wedi'u llenwi ag olew
ghee
y tu mewn a'r tu allan i'r t?. Mae hynny er mwyn dathlu dychweliad Rama i
Ayodhya
a'i goroni yno wedi bod yn alltud am 14 mlynedd. I rai Hind?iaid mae'r diwrnod yn gysegredig i'r brenin chwedlonol
Vikramaditya
fel diwrnod cyntaf y calendr
Vikram
.
Yama-dvitiya
yw enw'r pumed diwrnod. Mae'n dathlu achlysur pan giniawodd y duw
Yama
a'i chwaer Yamuna a gorchmynnodd i bawb arall wneud yr un fath. Rhaid i bob dyn giniawa yn nh? ei chwaer neu berthynas benywaidd arall a rhoi anrhegion iddi. Cynhelir gwyliau ymdrochi mawr ar lannau
Afon Jamuna
(afon y dduwies Yamuna). Mae'r castiau clerigol yn addoli Yama a'i glerc Chitragupta.