한국   대만   중국   일본 
Disgfyd - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Disgfyd

Oddi ar Wicipedia
Y nofel gyntaf yn y gyfres Ddisgfyd, The Colour of Magic .

Cyfres o nofelau ffantasi comig yw llyfrau'r Disgfyd (Saesneg: Discworld ) a ysgrifennwyd gan y nofelydd Saesneg, Terry Pratchett . Mae'r gyfres wedi ei osod ar fyd fflat sydd wedi ei gydbwyso ar gefn pedwar eliffant sydd yn eu tro yn sefyll ar gefn crwban enfawr, Great A'Tuin , sy'n nofio trwy'r gofod. Mae'r llyfrau yn aml yn gwatwar neu fenthyg syniadau J. R. R. Tolkien , Robert E. Howard , H. P. Lovecraft , a William Shakespeare , yn ogystal a chwedlau a llen gwerin. Bydd Pratchett yn aml yn cyfosod y rhain gyda materion diwylliannol, technolegol a gwyddonol i'w satireiddio.

Ers y nofel gyntaf, The Colour of Magic ( 1983 ), mae'r gyfres wedi ehangu, gyda nifer o fapiau, straeon byr, cart?n ac addasiadau drama yn cael eu cyhoeddi. Darlledwyd yr addasiad drama gyntaf ar gyfer teledu (cyfres ddwy-ran o'r Hogfather ) dros Nadolig 2006. Mae yna gynlluniau i greu addasiadau ffilm ar gyfer rhai o'r llyfrau Disgfyd eraill.

Mae'r nofelau Disgfyd yn aml ar frig rhestrau arch-werthwr llyfrau yng ngwledydd Prydain, a Terry Pratchett oedd awdur mwyaf llwyddiannus yr 1990au (ac yr awdur mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig cyn i J.K. Rowling (awdures Harri Potter ) ei oddiweddyd). Mae'r llyfrau Disgfyd hefyd wedi ennill nifer o wobrau fel y wobr Prometheus a'r fedal Carnegie . Yn rhestr Big Read y BBC , roedd pedwar llyfr Disgfyd yn y 100 uchaf, a chyfanswm o un-deg-pedwar llyfr yn y 200 uchaf.

Nofelau [ golygu | golygu cod ]

Ar hyn o bryd (2009), mae yna 35 llyfr yn y gyfres Ddisgfyd (gan gynnwys 4 llyfr i blant/oedolion ifanc). Roedd gan yr argraffiadau Prydeinig gwreiddiol o'r 26 llyfr cyntaf celf clawr nodedig gan y darluniwr Josh Kirby . Ers marwolaeth Josh Kirby yn 2001, mae llyfrau newydd Disgfyd ers The Last Hero wedi eu darlunio gan Paul Kidby , ac mae argraffiadau diweddar o'r llyfrau cynnar yn defnyddio celf fwy minimalaidd i apelio tuag at fwy o oedolion.

Mae nifer o'r nofelau yn cynnwys yr un prif gymeriadau ac yn dangos eu datblygiad dros amser. Yn ogystal a hynny, bydd nifer o gymeriadau'n gwneud ymddangosiadau cameo mewn llyfrau eraill lle nad ydynt yn un o'r prif gymeriadau. Er bod dim ffurf swyddogol i grwpio'r nofelau, gellir eu rhannu i mewn i is-gyfresau sy'n dilyn nifer o archion storiau a chymeriadau tebyg: