Dio Cassius
|
---|
|
Ganwyd
| Lucius Claudius Cassius Dio Cocceianus
2 g
Nicaea
|
---|
Bu farw
| Nicaea
|
---|
Dinasyddiaeth
| Rhufain hynafol
|
---|
Galwedigaeth
| hanesydd
,
gwleidydd
, person milwrol
|
---|
Swydd
| Conswl Rhufeinig
, seneddwr Rhufeinig
|
---|
Adnabyddus am
| Roman History
|
---|
Tad
| Cassius Apronianus
|
---|
Roedd
Dio Cassius
, neu
Cassius Dio
(ganed rhwng
155
a
164
- ar ol
229
) yn hanesydd Groegaidd o'r cyfnod Rhufeinig. Cyhoeddodd hanes
Rhufain
dros gyfnod o 983 mlynedd, o ddyfodiad
Aeneas
i'r
Eidal
hyd y flwyddyn
229
.
Ganed Dio Cassius Dio yn ninas
Nicaea
yn
Bithynia
. Roedd yn fab i Cassius Apronianus, aelod o
Senedd Rhufain
. Yn ol traddodiad roedd ei fam yn ferch i'r hanesydd ac athronydd Groegaidd
Dio Chrysostom
,ond nid oes prawf o hyn. Ysgrifennai mewn Groeg, ond gellir ei ystyried fel Rhufeiniwr hefyd o ystyried cefndir ei dad.
Daeth ef ei hun yn Seneddwr dan
Commodus
ac yn rhaglaw
Smyrna
ac wedyn yn
gonswl suffect
tua 205, ac yn broconswl
Affrica
a
Pannonia
. Roedd yn ffefryn mawr gan yr ymerawdwr
Alexander Severus
, a'i gwnaeth yn gonswl am yr eildro.
Roedd ei
Hanes Rhufain
yn cynnwys 80 llyfr. Dim ond rhannau o'r 36 llyfr cyntaf sydd ar gael, ond mae'r llyfrau dilynol hyd llyfr 54 bron yn gyflawn; mae'r rhain yn trafod y cyfnod o
65 CC
hyd
12 CC
. Mae llyfrau 56-60, yn trin y cyfnod o
9
OC. hyd
54
, yn gyflawn, tra mai dim ond rhannau o'r ugain llyfr diwethaf sydd wedi goroesi.
Ystyrir Dio Cassius yn hanesydd dibynadwy ac yn ffynhonnell werthfawr ar nifer o bynciau, er enghraifft ar hanes
y Celtiaid
.