Mewn
ffiseg
a
mathemateg
, mae
dimensiwn
gofod neu wrthrych yn cael ei ddiffinio'n anffurfiol fel yr isafswm o
gyfesurynnau
sydd eu hangen i bennu unrhyw bwynt oddi fewn i'r gofod (neu wrthrych).
Felly:
- Un dimensiwn: mae gan linell ddimensiwn o un oherwydd mai dim ond un
cyfesuryn
sydd ei angen i bennu pwynt arno e.e. y pwynt 5 ar linell rif.
- Dau ddimensiwn: mae gan arwyneb fel
plan
,
silindr
neu
sffer
ddimensiwn o ddau - oherwydd bod angen dau gyfesuryn i bennu pwynt arno - e.e. mae angen
lledred
a
hydred
i ddod o hyd i bwynt ar wyneb sffer.
- Tri dimensiwn: mae tu mewn ciwb, silindr neu sffer yn dri dimensiwn oherwydd bod angen tri chyfesuryn i leoli pwynt o fewn y gofod hwn.
Mae damcaniaethau ffiseg clasurol yn disgrifio tri dimensiwn ffisegol. O bwynt y gofod, gallwn symud, yn ffisegol, i dri chyfeiriad: i fyny / i lawr, i'r chwith / i'r dde, ac ymlaen / yn ol. Gellir mynegi pob symudiad i gyfeiriad arall yn nhermau'r tri hyn. Mae symud i lawr yr un peth a symud i fyny pellter negatif ayb. Mae symud yn groeslin i fyny ac ymlaen yn union fel y mae enw'r cyfarwyddyd yn ei awgrymu; hynny yw, symud mewn cyfuniad llinellol o fyny ac ymlaen. Yn ei ffurf symlaf: mae llinell yn disgrifio un dimensiwn, mae plan yn disgrifio dau ddimensiwn, ac mae ciwb yn disgrifio tri dimensiwn.