Digwyddiad
chwaraeon
sydd wedi'i drefnu dros sawl diwrnod ac sy'n cynnwys cystadlaethau ym meysydd nifer o chwaraeon gwahanol ydy
digwyddiad aml-chwaraeon
. Fe'i cynhelir rhwng timoedd o athletwyr o wledydd gwahanol gan amlaf. Y digwyddiad modern aml-chwaraeon cyntaf o arwyddocad oedd y
Gemau Olympaidd
.
Ers hynny mae nifer o wledydd wedi sefydlu digwyddiadau aml-chwaraeon sydd wedi'u modelu ar y Gemau Olympaidd. Yr un strwythur sydd gan y mwyafrif ohonynt. Cynhelir y gemau dros gyfnod o sawl diwrnod yn, ac yn agos i'r ddinas sy'n cynnal y gystadleuaeth. Mae'r ganolfan yn newid o gystadleuaeth i gystadleuaeth. Mae gwledydd a thimoedd cenedlaethol yn danfon timoedd i bob cystadleuaeth,