Dewi Sant
(bl.
6g
; bu farw yn
589
yn ol
Rhigyfarch
[1]
) yw
nawddsant
Cymru
. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ol Rhigyfarch,
Non
oedd ei fam, a dreisiwyd gan Sant - mab pennaeth
Ceredigion
.
[2]
Dethlir
Dydd G?yl Dewi
ar
1 Mawrth
. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg
Llyfr Ancr Llanddewibrefi
(
Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen
) ei bregeth olaf, lle dywedodd,
"Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."
Yn ol un traddodiad, cafodd ei eni yn
Henfynyw
ger
Aberaeron
, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at
Gapel Non
, gerllaw
Eglwys Gadeiriol Tyddewi
heddiw. Ei fam oedd y santes
Non
a'i dad oedd Sant (neu
Sandde
), brenin Ceredigion.
Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn
Nhyddewi
(yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn
llawysgrif
Wyddelig o tua'r flwyddyn
800
. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin
vallis rosina
sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu
cwm corsiog
.
[
angen ffynhonnell
]
Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i
Iwerddon
,
Cernyw
,
Llydaw
gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol
Tyddewi
ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.
Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r
fuchedd
a ysgrifennodd
Rhigyfarch
tua'r flwyddyn
1100
. Gelwir y cyfieithiad
Cymraeg Canol
o'r
Lladin
wreiddiol
Buchedd Dewi Sant
.
Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei
fynachlog
. Roedd yr oriau gweddio'n hir, bara a d?r oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r
efengyl
i'r
paganiaid
yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus), yn ol un awdur o'r
9g
.
Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd a
Sant Padrig
ar
Ynys Dewi
, ar arfordir
Sir Benfro
ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn
Llanddewi Brefi
gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ol
Rhigyfarch
a llawysgrifau
Gwyddelig
o'r
9g
, bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589
[1]
- a dyma'r dyddiad y dethlir
G?yl Ddewi
bob blwyddyn.
- ↑
1.0
1.1
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
, d.e. Dewi Sant.
- ↑
Gwyddoniadur Cymru
tud 288;] Gwasg Prifysgol Cymru; Prif Olygydd: John Davies.