Pentref bychan yn
Swydd Deri
,
Gogledd Iwerddon
, yw
Desertmartin
[1]
o'r Wyddeleg
Diseart Mhartain
, a'i enw'n y Wyddeleg yn golygu "meudwy Sant Martin".
[2]
[3]
Mae'n bedair milltir o Magherafelt/Machair Fiolta, wrth droed Slieve Gallion. Yng
Nghyfrifiad 2001
roedd gan ardal fwyaf Diseart Mhartain boblogaeth o 1,276. Mae'n gorwedd o fewn plwyf Diseart Mhartain, Dosbarth Mid-Ulster, a barwniaeth hanesyddol Loughinsholin/Loch Inse Ui Fhloinn. Ymhlith yr aneddiadau cyfagos mae Draperstown/Baile na Croise, Machair Fiolta, Moneymore/Muine Mor, a Tobermore/Tobar Mor.
Cysegrwyd meudwy mynachaidd Diseart Mhartain yn wreiddiol i Sant
Martin o Tours
. Mae olion yr eglwys blwyf hynafol yn nhref-dir Knocknagin ar ochr ddwyreiniol y pentref.
[2]
Pan grewyd Swydd Coleraine yn 1585, yr oedd ei gweinyddiad i fod i gael ei gyflawni yn nhref
Coleraine/Cuil Raithin
. Fodd bynnag, adeiladwyd y carchar a'r llys yn Diseart Mhartain.
[4]
Ar 19 Mai 1922, yn ystod
Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon
, ymosododd tyrfa o undebwyr a Chwnstabliaid Gwirfoddol Ulster/Ulster Special Constables a llosgi llawer o gartrefi a busnesau Catholig yn Diseart Mhartain, i ddial am losgi melin oedd yn eiddo i'r undebwyr. Aeth Cwnstabliaid Gwirfoddol a phedwar o ddynion Catholig o’u cartrefi y tu allan i’r pentref a’u dienyddio’n ddiannod wrth ymyl y ffordd.
[5]
- Sant Padrig, tref-dir* Keenaght (
Catholig
) (Hen Gapel).
- Sant Padrig, tref-dir Keenaght (
Catholig
) (Capel Newydd).
- Mae Eglwys y Santes Fair, tref-dir Eglwys Annagh a Moneysterlin (
Catholig
) a'r Parochial House gerllaw yn adeiladau tirnod. Cyfeirir ato'n gyffredin fel Coolcalm ar ol yr hen dreflan o'r un enw, sydd bellach yn rhan o Annagh a Moneysterlin.
- Eglwys y Nasaread (cangen o'r enwad o'r un enw yn seiliedig ar draddodiad Wesleaidd).
- Mae Eglwys Sant Comgall (yr Eglwys Anglicanaidd yn Iwerddon) (
Plwyf Desertmartin
) yn adeilad o bwys gweledol a hanesyddol ac yn dirnod lleol. Adeiladwyd yr eglwys yn 1821 ac mae'n adeilad rhestredig. Lleolir Eglwys Sant Comgall ar Ffordd Dromore yn y pentref ac mae'n edrych allan dros fynydd golygfaol Slieve Gallion.
[6]
- Ysgol Gynradd St. Columb (
Catholig
)
- Ysgol Gynradd Diseart Mhartain
- Ysgol Gynradd Knocknagin (
Catholig
)
Agorodd gorsaf reilffordd Diseart Mhartain rhwng Machaire Fiolta a Baile na Croise ar 20 Gorffennaf 1883, caewyd i deithwyr ar 1 Hydref 1930, a chaeodd yn gyfan gwbl ar 3 Gorffennaf 1950.
[7]
Bardd
, ysgrifydd, golygydd a darlithydd o bwys o Ogledd Iwerddon yw Tom Paulin (g. 1949), sydd wedi ysgrifennu cerdd o'r enw
Desertmartin
.
- Cymdeithas Athletau Gaeleg St. Martin's Diseart Mhartain Clwb GAA St Martin's
- Clwb Peldroed Diseart Mhartain
- ↑
Gregory Toner,
Place-Names of Northern Ireland
(Queen's University of Belfast, 1996), t.85
- ↑
2.0
2.1
"Place Names NI"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2016-03-05
. Cyrchwyd
2024-04-22
.
- ↑
Deirdre a Laurence Flanagan,
Irish Place Names
(Gill & Macmillan, 2002), t.202
- ↑
BBC Local History
- ↑
Pearse Lawlor,
The Outrages: The IRA and the Ulster Special Constabulary in the Border Campaign
(Mercier Press, 2011), tt.275-80
- ↑
Mae Iwerddon yn hanesyddol wedi defnyddio 'tref-diroedd' (townlands) fel eu mesur lleiaf o rannu tir yn weinyddol. Yng Ngwyddeleg, defnyddir
baile fearainn
sef "tref-dir".
- ↑
"Desertmartin station"
(PDF)
.
Railscot - Irish Railways
. Cyrchwyd
2007-09-23
.