Diseart Mhartain

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Desertmartin )
Desertmartin
Math pentref   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Derry
Gwlad Baner Gogledd Iwerddon  Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau 54.7667°N 6.6833°W  Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yn Swydd Deri , Gogledd Iwerddon , yw Desertmartin / ? d ? z ?r t ? m ?ːr t ? n / [1] o'r Wyddeleg Diseart Mhartain , a'i enw'n y Wyddeleg yn golygu "meudwy Sant Martin". [2] [3] Mae'n bedair milltir o Magherafelt/Machair Fiolta, wrth droed Slieve Gallion. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd gan ardal fwyaf Diseart Mhartain boblogaeth o 1,276. Mae'n gorwedd o fewn plwyf Diseart Mhartain, Dosbarth Mid-Ulster, a barwniaeth hanesyddol Loughinsholin/Loch Inse Ui Fhloinn. Ymhlith yr aneddiadau cyfagos mae Draperstown/Baile na Croise, Machair Fiolta, Moneymore/Muine Mor, a Tobermore/Tobar Mor.

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Cysegrwyd meudwy mynachaidd Diseart Mhartain yn wreiddiol i Sant Martin o Tours . Mae olion yr eglwys blwyf hynafol yn nhref-dir Knocknagin ar ochr ddwyreiniol y pentref. [2]

Pan grewyd Swydd Coleraine yn 1585, yr oedd ei gweinyddiad i fod i gael ei gyflawni yn nhref Coleraine/Cuil Raithin . Fodd bynnag, adeiladwyd y carchar a'r llys yn Diseart Mhartain. [4]

Ar 19 Mai 1922, yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon , ymosododd tyrfa o undebwyr a Chwnstabliaid Gwirfoddol Ulster/Ulster Special Constables a llosgi llawer o gartrefi a busnesau Catholig yn Diseart Mhartain, i ddial am losgi melin oedd yn eiddo i'r undebwyr. Aeth Cwnstabliaid Gwirfoddol a phedwar o ddynion Catholig o’u cartrefi y tu allan i’r pentref a’u dienyddio’n ddiannod wrth ymyl y ffordd. [5]

Adeiladau crefyddol [ golygu | golygu cod ]

  • Sant Padrig, tref-dir* Keenaght ( Catholig ) (Hen Gapel).
  • Sant Padrig, tref-dir Keenaght ( Catholig ) (Capel Newydd).
  • Mae Eglwys y Santes Fair, tref-dir Eglwys Annagh a Moneysterlin ( Catholig ) a'r Parochial House gerllaw yn adeiladau tirnod. Cyfeirir ato'n gyffredin fel Coolcalm ar ol yr hen dreflan o'r un enw, sydd bellach yn rhan o Annagh a Moneysterlin.
  • Eglwys y Nasaread (cangen o'r enwad o'r un enw yn seiliedig ar draddodiad Wesleaidd).
  • Mae Eglwys Sant Comgall (yr Eglwys Anglicanaidd yn Iwerddon) ( Plwyf Desertmartin ) yn adeilad o bwys gweledol a hanesyddol ac yn dirnod lleol. Adeiladwyd yr eglwys yn 1821 ac mae'n adeilad rhestredig. Lleolir Eglwys Sant Comgall ar Ffordd Dromore yn y pentref ac mae'n edrych allan dros fynydd golygfaol Slieve Gallion. [6]

Ysgolion [ golygu | golygu cod ]

  • Ysgol Gynradd St. Columb ( Catholig )
  • Ysgol Gynradd Diseart Mhartain
  • Ysgol Gynradd Knocknagin ( Catholig )

Cludiant [ golygu | golygu cod ]

Agorodd gorsaf reilffordd Diseart Mhartain rhwng Machaire Fiolta a Baile na Croise ar 20 Gorffennaf 1883, caewyd i deithwyr ar 1 Hydref 1930, a chaeodd yn gyfan gwbl ar 3 Gorffennaf 1950. [7]

Pobl [ golygu | golygu cod ]

Bardd , ysgrifydd, golygydd a darlithydd o bwys o Ogledd Iwerddon yw Tom Paulin (g. 1949), sydd wedi ysgrifennu cerdd o'r enw Desertmartin .

Chwaraeon [ golygu | golygu cod ]

  • Cymdeithas Athletau Gaeleg St. Martin's Diseart Mhartain Clwb GAA St Martin's
  • Clwb Peldroed Diseart Mhartain

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Gregory Toner, Place-Names of Northern Ireland (Queen's University of Belfast, 1996), t.85
  2. 2.0 2.1 "Place Names NI" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05 . Cyrchwyd 2024-04-22 .
  3. Deirdre a Laurence Flanagan, Irish Place Names (Gill & Macmillan, 2002), t.202
  4. BBC Local History
  5. Pearse Lawlor, The Outrages: The IRA and the Ulster Special Constabulary in the Border Campaign (Mercier Press, 2011), tt.275-80
  6. Mae Iwerddon yn hanesyddol wedi defnyddio 'tref-diroedd' (townlands) fel eu mesur lleiaf o rannu tir yn weinyddol. Yng Ngwyddeleg, defnyddir baile fearainn sef "tref-dir".
  7. "Desertmartin station" (PDF) . Railscot - Irish Railways . Cyrchwyd 2007-09-23 .