Undeb brenhinol yn cynnwys
Teyrnas Denmarc
,
Teyrnas Norwy
(gan gynnwys
Ynysoedd Ffaroe
,
Gwlad yr Ia
, a'r
Ynys Las
),
Dugiaeth Schleswig
, a
Dugiaeth Holstein
oedd
Denmarc?Norwy
(
Daneg
a
Norwyeg
:
Danmark?Norge
) a fodolai o'r 16g hyd at 1814. Roedd yn berchen hefyd ar nifer o drefedigaethau tramor:
y Traeth Aur Danaidd
,
Ynysoedd Nicobar
,
Serampore
,
Tharangambadi
, ac
Ynysoedd Danaidd India'r Gorllewin
.
Roedd y cenhedloedd a'r grwpiau ethnig o dan reolaeth Denmarc?Norwy yn cynnwys
Daniaid
,
Norwyaid
,
Almaenwyr
,
Ffaroaid
,
Islandwyr
,
Inuit
, a
Sami
. Y dinasoedd mwyaf oedd
Copenhagen
,
Christiania
(Oslo bellach),
Altona
,
Bergen
, a
Trondheim
, a'r prif ieithoedd oedd Daneg,
Almaeneg
, Norwyeg,
Islandeg
,
Ffaroeg
,
Sami
, a'r
Lasynyseg
.