Mae
Delaware
yn dalaith yng ngogledd-orllewin yr
Unol Daleithiau
, sy'n gorwedd ar arfordir
Cefnfor Iwerydd
. Delaware yw'r ail leiaf o'r taleithiau, gyda arwynebedd tir o ddim ond 5328 km², ac un o'r rhai mwyaf diwydiannol. Sefydlwyd gwladfa yno gan yr
Iseldiroedd
yn
1655
ac un arall gan y
Saeson
yn
1664
. O
1682
hyd
1776
roedd yn rhan o
Bennsylvania
. Delaware oedd y gyntaf o 13 talaith gwreiddiol yr Unol Daleithiau.
Dover
yw'r brifddinas.
Lleoliad Delaware yn yr Unol Daleithiau