Deiseb
Hui Hawaii Aloha Aina
(Cynghrair Gwladgarol Hawaii) a arwyddwyd gan y mwyafrif o frodorion
Hawaii
i wrthwynebu cyfeddiannu'r ynysoedd yn rhan o'r Unol Daleithiau.
[1]
Cais ffurfiol a arwyddwyd gan nifer o bobl i'w gyflwyno i unigolyn neu gorff awdurdodol yw
deiseb
.
[2]
Mynegiant o farn neu ewyllys y bobl yw'r ddeiseb a'i nod yw pwyso ar y derbynnydd i ateb cwyn neu wneud iawn am gam, i bleidleisio neu weithredu mewn ffordd arbennig, neu fel arall i dynnu ei sylw at fater arbennig. Mae'r hawl i ddeisyfu ar y llywodraeth yn
iawnder dinesig
ac yn agwedd sefydledig o'r
drefn ddemocrataidd
mewn nifer o wledydd.
[3]