Tiriogaeth ddadleuol yn y
Cawcasws
yw
De Osetia
(
Oseteg
: Хуссар Ирыстон,
Khussar Iryston
;
Georgeg
: ??????? ?????,
Samkhret Oseti
;
Rwseg
: Южная Осетия,
Yuzhnaya Osetiya
). Yn ol
cyfraith ryngwladol
, mae'n rhan
de jure
o weriniaeth
Georgia
, ond mae'n weriniaeth annibynnol
de facto
gyda chysylltiadau agos a
Gogledd Osetia
, sy'n rhan o
Ffederasiwn Rwsia
. Yn hanesyddol, mae'n rhan o
Osetia
, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws.
Tskhinvali
yw'r brifddinas. Cydnabyddir De Osetia gan ychydig o wledydd eraill yn unig.
Mae tua 60-70% o'r boblogaeth yn
Osetiaid
, ac yn
Gristnogion
sy'n siarad
Oseteg
, iaith sy'n debyg i
Farsi
.Ond ceir pryder am ddyfodol yr iaith Oseteg oherwydd diffyg addysg a hefyd gwahaniaethau tafodiaethol o fewn De a Gogledd Osetia.
[1]
Mae gweddill y boblogaeth, yn bennaf yn y de, yn
Georgiaid
.
Cyhoeddwyd gweriniaeth annibynnol De Osetia gan wrthyfelwyr yn erbyn awdurdod Georgia yn
2001
, ar ol cyfnod o anghydfod a gwrthryfel. Erbyn heddiw mae tua 90% o boblogaeth y diriogaeth yn dal pasbortau Rwsiaidd, a hynny ar anogaeth Rwsia ei hun. Sefydlwyd llu heddwch yn y diriogaeth, yn cynnwys milwyr Rwsiaidd yn bennaf ac unedau o fyddin Georgia.
Yn ystod y nos ar
7 Awst
2008
, ymosododd lluoedd arfog Georgia ar y gwrthryfelwyr a bomiwyd rhannau o ddinas Tskhinvali gan gychwyn
Rhyfel De Osetia
. Ymateb Rwsia, a oedd wedi bod yn crynhoi adnoddau milwrol ar y ffin am tua dau fis, oedd anfon ei milwyr i mewn i Dde Osetia.
Mae
Oseteg
a
Rwseg
yn ieithoedd swyddogol o fewn y tiriogaeth.
- ↑
"One Nation, Two Polities, Two Endangered Ossetian Languages?"
.
Radio Free Europe/Radio Liberty
. 28 Mai 2015.