David Morris
|
---|
Ganwyd
| 1800
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Caerfyrddin
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu farw
| 30 Medi 1864
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Swydd
| Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Plaid Wleidyddol
| Chwigiaid
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Roedd
David Morris
(
1800
?
30 Medi
1864
) yn gyfarwyddwr banc ac yn wleidydd
Rhyddfrydol
Cymreig a wasanaethodd fel
Aelod Seneddol
Bwrdeistref Caerfyrddin
rhwng 1837 a 1864
[1]
.
Ganwyd David Morris yng
Nghaerfyrddin
yn fab hynaf William Morris, bancwr.
Roedd yn di briod
Sefydlodd tad cu Morris banc yng Nghaerfyrddin, Morris & Sons yn y 1780au, bu David Morris yn gweithio yn y banc gan godi'n gyfarwyddwr iddi. Roedd cyfnod Morris fel cyfarwyddwr yn un llewyrchus i'r cwmni
[2]
; pan ymddeolodd ar gael ei ethol i'r Senedd ym 1837 roedd ganddo ffortiwn werth tua £250,000 (gwerth tua £18 miliwn bellach
[3]
)
Safodd yn etholiad cyffredinol 1837 fel
Chwig
, gan lwyddo i ddisodli 'r aelod Ceidwadol,
David Lewis
. Cafodd ei feirniadu yn hallt gan rhai sylwebyddion Rhyddfrydol am beidio a phledio achos
Beca
yn y Senedd ym 1839/40
[4]
, methodd y feirniadaeth i effeithio ar ei boblogrwydd fel aelod. Cadwodd y sedd (fel Rhyddfrydwr yn hytrach na Chwig, o 1859) hyd ei farwolaeth ym 1864 pan gafodd ei olynu gan ei nai
William Morris
. Yn y senedd ei ddiddordebau pennaf oedd materion ariannol ac addysg
[5]
.
Bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin wedi salwch byr yn 64 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Caerfyrddin.