한국   대만   중국   일본 
David Brunt - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

David Brunt

Oddi ar Wicipedia
David Brunt
Ganwyd 17 Mehefin 1886  Edit this on Wikidata
Penffordd-Las   Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Chwefror 1965  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru  Cymru
Galwedigaeth meteorolegydd  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, KBE, Medal Brenhinol, Marchog Faglor  Edit this on Wikidata

Meteorolegydd Cymreig oedd David Brunt ( 17 Mehefin 1886 ? 5 Chwefror 1965 ). Ganwyd ym Mhenffordd-Las [1] neu Drefeglwys ( Staylittle ) [2] [3] , ger Llanidloes yn un o 9 o blant i was fferm, cyn symud i'r gweithfeydd glo yn Llanhiledd , Sir Fynwy . Mynychodd Ysgol Abertileri ac yna graddiodd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth a gradd pellach yng Nghaergrawnt .

Ym 1915 ymunodd ag Adran Feteoroleg y Peiriannwyr Brenhinol a chanolbwyntiodd ar ddarogan y tywydd er mwyn rheoli perfformiad y gynnau mawr yn Ffrainc; sylweddolodd bwysigrwydd ystadegaeth yn y gwaith hwn. Ym 1934 daeth yn Athro yn yr adran Feteorolegol y Coleg Imperial, Llundain a chyhoeddodd lyfr Physical and Dynamical Meteoroligy , cyfrol a ddaeth yn sail gadarn i'r astudiaeth o feteoroleg. Yn y llyfr mynnodd fod yn rhaid wrth fwy nag ystadegaeth i ddarogan y tywydd, gan gynnwys: cynnwrf, trosglwydiad gwres a deinameg patrymau'r tywydd. Ym 1939 fe'i gwaed yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Farchog ym 1949.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Cymru Culture; erthygl Gymraeg Archifwyd 2014-05-30 yn y Peiriant Wayback .; adalwyd 17 Mehefin 2014
  2. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol 2008; Prif-Olygydd: John Davies
  3. Y Y Bywgraffiadur Ar-lein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru;] adalwyd 17 Mehefin 2014