Roedd
Dafydd Rowlands
(
25 Rhagfyr
1931
?
26 Ebrill
2001
) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn ddarlithydd, ac fardd ac yn llenor. Fe'i ganwyd ym
Mhontardawe
. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe, lle bu ei athro Cymraeg,
Eic Davies
, yn ddylanwad mawr arno. Roedd yr actores
Sian Phillips
yn un o'i gyfoedion. Oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle derbyniodd radd yn y Gymraeg, ac yna i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin i baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Ar ol cyfnod yn y weinidogaeth aeth i ddysgu yn Ysgol Ramadeg y Garw ac yn 1968 fe'i penodwyd ar staff
Coleg y Drindod, Caerfyrddin
yn yr Adran Gymraeg, ac yn ddiweddarach dechreuodd ysgrifennu sgriptiau i'r teledu.
Enillodd y
Goron
yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fflint 1969
a'r Goron a'r
Fedal Ryddiaith
yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972
. Bu'n archdderwydd (Dafydd Rolant) o 1996 i 1999.
- Alun Jones, "Holi Dafydd Rowlands",
Yr Aradr
6 (1995): 152-201
- Ioan Williams, "Nofel/Cerdd
Mae Theomemphus yn Hen
", yn
Rhyddid y Nofel
, gol. Gerwyn Wiliams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), tt.238-45
- "Dafydd Rowlands", yn
Y Patrwm Amryliw: Cyfrol 2
, gol. Robert Rhys (Abertawe: Cyhoeddiadau Barddas, 2006), tt.64-75