Mae
daearyddiaeth
Iwerddon
yn disgrifio daearyddiaeth ynys yng ngogledd-orllewin Ewrop. Yn wleidyddol, rhennir yr ynys rhwng
Gweriniaeth Iwerddon
, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o arwynebedd yr ynys, a
Gogledd Iwerddon
(rhanbarth y
DU
) yn y gogledd-ddwyrain.
Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerddon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw
Corran Tuathail
(
Saesneg
:
Carrauntoohil
), ym mynyddoedd
Macgillycuddy’s Reeks
yn
Swydd Kerry
yn y de-orllewin, sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ymhlith mynyddoedd eraill yr ynys mae
Mynyddoedd Wicklow
. Ceir nifer sylweddol o
ynysoedd
o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.
Yr afon fwyaf ar yr ynys yw
Afon Shannon
, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag
aber
sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i
For Iwerydd
ychydig i'r de o ddinas
Limerick
. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint;
Lough Neagh
yn y gogledd yw'r mwyaf;
Loch Coiribe
yn y gorllewin yw'r ail o ran maint, a llyn mwyaf Gweriniaeth Iwerddon. Trydydd llyn Iwerddon o ran maint yw
Loch Deirgeirt
(Lough Derg) ar Afon Shannon.
Mae gan Iwerddon nifer o ynysoedd, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol. Y fwyaf o'r ynysoedd hyn yw
Ynys Achill
; mae
Ynysoedd Arann
ac
Ynysoedd Blasket
hefyd yn nodedig.
Ynys Rathlin
yw'r unig ynys oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon sydd a phoblogaeth arni.