한국   대만   중국   일본 
Cysyniad - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Cysyniad

Oddi ar Wicipedia

Uned gwybyddol o ystyr - syniad haniaethol neu symbol meddyliol a ddiffinir weithiau fel "uned o wybodaeth", a greir gan unedau eraill sy'n gweithredu fel ei nodweddion , yw cysyniad . Gan amlaf cysylltir cysyniad gyda chynrychiolaeth mewn iaith neu symbolaeth [ angen ffynhonnell ] megis ystyr unigol term .

Ceir damcaniaethau mewn athroniaeth gyfoes sy'n ceisio esbonio natur cysyniadau. Cynigia'r ddamcaniaeth gynrychioladol y meddwl fod cysyniadau yn gynrychioliadau meddyliol , tra bod damcaniaethau semantig o gysyniadau (sy'n tarddu o wahaniaeth Frege rhwng cysyniad a gwrthrych ) yn credu eu bod yn wrthychau haniaethol . [1] Ystyrir syniadau yn gysyniadau, er nid yw cysyniadau o reidrwydd yn ymddangos yn y meddwl fel delweddau fel y gwna rhai syniadau. [2] Ystyria rhai athronwyr cysyniadau yn gategori ontolegol hanfodol o fod .

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. The Ontology of Concepts?Abstract Objects or Mental Representations? , Eric Margolis a Stephen Laurence
  2. Cambridge Dictionary of Philosophy, ed. Audi
Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .
Chwiliwch am cysyniad
yn Wiciadur .