Newid hinsawdd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cynhesu byd eang )
Y Byd Bregus
Cynhesu Byd Eang

Amgylchedd
Adnewyddadwy
Anadnewyddadwy
Asesiad Amgylcheddol
Cylchred carbon
Cynhesu byd eang
Cytundeb Kyoto
Eco-sgolion
Haen oson
Panel solar
Tanwydd ffosil
Ynni adnewyddol
Ynni cynaladwy


Categori

Mae cynhesu byd-eang yn gynnydd a welwyd yn nhymheredd cyfartalog y byd yn y degawdau diwethaf, a'r cynnydd pellach posibl yn y ganrif nesaf. Mae'r cynhesu hwn yn effeithio patrymau tywydd y byd - gelwir hyn yn newid hinsawdd neu'n newid yn yr hinsawdd . Mae'r mwyafrif o wyddonwyr bellach yn credu bod cynhesu byd-eang yn digwydd, ar raddfa o gwmpas 0.3 °C y ddegawd, a'i fod yn cael ei achosi gan gynnydd yng nghrynodiad y nwyon t? gwydr , fel y'u gelwir, yn yr atmosffer . Yn ystod rhan gyntaf Oes yr Efydd roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach. Y gydran bwysicaf oll o'r nwyon t? gwydr yw carbon deuocsid (CO 2 ) oherwydd y maint a gynhyrchir, er fod gan nwyon eraill megis methan (CH 4 ) fwy o effaith fesul moleciwl. Y ffynonellau allyriant CO 2 mwyaf yw gorsafoedd p?er, cerbydau, diwydiant a defnydd ynni'r cartref. Mae llosgi tanwydd ffosil yn cyfrannu tuag 80% at allyriant CO 2 dynol yn fyd-eang.

Theori newid hinsawdd [ golygu | golygu cod ]

Cofnodion Tymheredd Ers 1880. Mae'r linell yn dangos cyfartaledd gofodol y tymheredd ar draws wyneb y ddaear, minws y cyfartaledd amserol dros y cyfnod 1951?1980 o'r cyfartaledd hwn.

Ers y chwyldro diwydiannol rydym wedi bod yn allyrru symiau enfawr o garbon deuocsid wrth i ni ddefnyddio mwy a mwy o egni. Mae carbon deuocsid, sef un o'r prif nwyon t? gwydr yn cronni yn yr atmosffer ac yn ynysu ein planed, gan atal rhag i wres isgoch ddianc. Ar y graff hinsawdd cyferbyn rydych yn gallu gweld bod y tymheredd yn cynyddu ers y chwyldro diwydiannol yn y 1800au.

Tystiolaeth Dros Newid Hinsawdd [ golygu | golygu cod ]

Mae meteorolegwyr wedi bod yn astudio a chofnodi data am yr hinsawdd yn fanwl dros y ddwy ganrif ddiwethaf, yn Ewrop, Gogledd America, ac ychydig o wledydd trofannol. Mae'r dystiolaeth ddiweddar yma'n gallu bod yn ddefnyddiol, ond mae'n rhaid mynd ymhellach yn ol mewn amser i weld y llun cyflawn. I wneud hyn mae'n rhaid edrych ar wahanol dystiolaeth.

Tystiolaeth Rewlifol [ golygu | golygu cod ]

Mae rhewlifau yn encilio fel ymateb i newidiadau hinsoddol. Mae cofnodion manwl ar gael ers 1644 o dri rhewlif yn yr alpau yn Ffrainc , ( Mer de Glace , d'Argentierre , a Des Bossons ). Mae mwyafrif y rhewlifau yn Hemisffer y Gogledd yn encilio ar hyn o bryd, rhai ohonynt yn gyflym iawn.

Creiddiau Ia [ golygu | golygu cod ]

Mae'r rhain yn mynd yn ol ymhellach, yn achos Yr Ynys Las tua 100,000 o flynyddoedd cyn heddiw. Wrth archwilio samplau o ia mae modd casglu gwybodaeth am yr amgylchiadau pan ffurfiwyd yr ia. Mae'r swigod aer sydd wedi ei ddal yn yr ia yn cario gwybodaeth am dymheredd a gwasgedd yr amgylchiadau. Gellir hefyd cymharu isotopau o fewn yr ia lle mae'r mas atomig yn newid.

Tystiolaeth Ddaearegol [ golygu | golygu cod ]

Mewn rhannau sych o Affrica mae yna batrymau o ddraenio a dyddodi afonol sy'n amhosib eu hegluro yn yr hinsawdd bresennol. Maent yn adlewyrchu cyfnod pan oedd Affrica yn derbyn llawer mwy o law na heddiw. Gall daearyddwyr defnyddio tystiolaeth fel hyn i ragdybio amodau'r gorffennol. Mae daearyddwyr yn defnyddio radio carbon (C14) er mwyn dyddio oedran ffosiliau ac organebau marw. Wrth iddynt bydru mae daearyddwyr a gwyddonwyr yn gallu astudio samplau er mwyn ei oedrannau.

Tystiolaeth Fiolegol [ golygu | golygu cod ]

Mae'r astudiaeth o biomau yn dangos cydberthyniad agos gyda'r tymheredd, golau haul a dyodiad. Mae nifer o ddulliau wedi cael ei ddatblygu sy'n cysylltu planhigion gyda hinsoddau'r gorffennol. Gelwir y math yma o astudiaeth yn Dendrocronoleg .

Ymchwil Paill [ golygu | golygu cod ]

Mae'r hinsawdd yn penderfynu pa fath o blanhigion sy'n tyfu mewn safle. Yn ystod eu hoes mae planhigion yn rhyddhau paill i'r ardal o'i amgylch. Weithiau mae gwaddodion o'r paill yn cael ei storio yn y ddaear, ac wrth astudio'r samplau yma gellir darganfod gwybodaeth am yr amgylchiadau.

Tystiolaeth Hanesyddol ac Archeolegol [ golygu | golygu cod ]

Mae'r rhain yn cynnwys llenyddiaeth, lluniau a phaentiadau sy'n dangos tystiolaeth o'r amgylchiadau.

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato