Corff Libiaidd a ffurfiwyd gan wrthryfelwyr sy'n gwrthwynebu llywodraeth Muammar al-Gaddafi yn ystod gwrthryfel 2011 yw'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol ( Arabeg : ?????? ?????? ?????????, al-majlis al-wa?an? al-intiq?l? ). Datganwyd ei ffurfiant yn ninas Benghazi ar 27 Chwefror 2011 gyda'r amcan o ymddwyn fel "wyneb gwleidyddol y chwyldro", ac ar 5 Mawrth 2011 datganwyd y cyngor ei hun i fod yn "unig gynrychiolydd Libia oll".