Corff rhyng-lywodraethol o fewn y
Cenhedloedd Unedig
sy'n cynnwys 47
gwladwriaeth
sy'n gyfrifol am gryfhau hyrwyddo ac amddiffyn
hawliau dynol
o gwmpas y byd yw
Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
neu
CHDCU
(
Saesneg
:
United Nations Human Rights Council
neu
UNHRC
;
Ffrangeg
:
Conseil des droits de l'homme des Nations Unies
neu
CDHNU
). Crewyd y Cyngor gan
Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
ar 15 Mawrth 2006 gyda'r prif fwriad o ymchwilio i sefyllfaoedd lle torrir hawliau dynol a gwneud awgrymiadau i ddatrys y problemau.
[1]
Mae'n cwrdd yn
Ninas Efrog Newydd
. Navi Pillay yw'r Uwch Gomisiynydd Hawliau Dynol presennol.
Yn ogystal a chynnal cyfarfodydd cyffredinol, mae CHDCU o bryd i'w gilydd yn cynnal sesiynau arbennig i drafod materion brys. Pwnc y 9fed Sesiwn Arbennig a agorwyd ar 9 Ionawr 2009 oedd "
The grave violations of human rights in the Occupied Palestinian Territory including the recent aggression of the occupied Gaza Strip
",
[2]
i drafod y sefyllfa ddynol yn
Llain Gaza
a'r cyhuddiadau fod
Israel
yn euog o gyflawni
trosedd rhyfel
yn erbyn y
Palesteiniaid
yn ei
ymosodiad ar y diriogaeth honno
.