Cynghrair rhwng nifer o wladwriaethau Groegaidd wedi ei ganoli ar ddinasoedd
Aetolia
oedd
Cynghrair Aetolia
. Fe'i ffurfiwyd yn
370 CC
i wrthwynebu grym cynyddol
Macedon
a
Chyngrair Achea
. Roedd wedi meddiannu
Delphi
erbyn
290 CC
ac erbyn diwedd y
3edd ganrif CC
roedd yn rheoli'r cyfan o ganolbarth Groeg heblaw
Attica
.
Yn ei flynyddoedd cynnar, ochrodd y cynghrair gyda
Gweriniaeth Rhufain
, gan gynorthwyo'r Rhufeiniaid i orchfygu
Philip V, brenin Macedon
ym
Mrwydr Cynoscephalae
yn
197 CC
. Yn ddiweddarch, ochrodd gydag
Antiochus III Mawr
, brenin yr
Ymerodraeth Seleucaidd
yn erbyn Rhufain. Pan orchfygwyd Antiochus gan Rufain yn
189 CC
bu raid i'r cynghrair dderbyn cytundeb heddwch a Rhufain oedd yn ei amddifadu o unrhyw rym gwirioneddol.
- Krzysztof K?ciek
Kynoskefalaj 197 p.n.e
(Warsaw: Bellona, 2002)