한국   대만   중국   일본 
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg

Oddi ar Wicipedia
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg
Euskal Herria
Euskal Autonomi Erkidegoa
Math Gwlad
Prifddinas Vitoria-Gasteiz   Edit this on Wikidata
Poblogaeth 2,213,993  Edit this on Wikidata
Anthem Eusko Abendaren Ereserkia, Gernikako Arbola  Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Inigo Urkullu Renteria  Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2  Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg , Basgeg   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol De Gwlad y Basg  Edit this on Wikidata
Sir Sbaen   Edit this on Wikidata
Gwlad Sbaen   Edit this on Wikidata
Arwynebedd 7,234 km²  Edit this on Wikidata
Uwch y mor 876 metr  Edit this on Wikidata
Gerllaw Mor Cantabria  Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Nafarroa Garaia , La Rioja , Cantabria , Castilla y Leon , Nouvelle-Aquitaine   Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43°N 2.75°W  Edit this on Wikidata
ES-PV  Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Lehendakari   Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Inigo Urkullu Renteria  Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol 0.924  Edit this on Wikidata

Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg ( Basgeg : Euskal Autonomi Erkidegoa , Sbaeneg : Comunidad Autonoma del Pais Vasco ) yw'r gymuned ymreolaethol sy'n cynnwys tair talaith fwyaf gorllewinol y rhan o Wlad y Basg sydd o fewn ffiniau Sbaen . Cyfeirir ati hefyd fel Euskadi mewn Basgeg, term a ddefnyddid yn wreiddiol am y cyfan o Wlad y Basg, ond a ddefnyddir fel rheol bellach fel enw am Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Mae'n gyfrifol am Etxepare Euskal Institutua (Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg) corff er hyrwyddo diwylliant Basgeg yn fyd-eang.

Mae'r diriogaeth yn fynyddig, gyda mynyddoedd y Pyreneau a mynyddoedd Cantabria . Mae llawer o ddiwydiant yno, ac mae'n un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen. Rhennir yr Euskal Autonomi Erkidegoa yn dair talaith:

Ceir mudiad ymreolaethol cryf yma.

Prif ddinasoedd [ golygu | golygu cod ]

  1. Bilbo (354,145)
  2. Vitoria-Gasteiz (226,490)
  3. Donostia (Sbaeneg: San Sebastian ) (183,308)
  4. Barakaldo (95,675)
  5. Getxo (83,000)
  6. Irun (59,557)
  7. Portugalete (51,066)
  8. Santurce (47,320)
  9. Basauri (45,045)
  10. Errenteria (38,397)

Gwleidyddiaeth [ golygu | golygu cod ]

Sefydlwyd y Gymuned fel endid wleidyddol yn dilyn refferendwm dros Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979 lle pleidleiswyd yn drwm dros greu Senedd Euskadi . Y bwriad wreiddiol oedd cynnwys Nafarroa yn rhan o'r senedd, ond bu rhwyg a sefydlwyd senedd gyda grymoedd tebyg ar gyfer talaith Nafarroa. Ers ei sefydlu mae Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg - EAJ-PNV - wedi bod yn brif blaid yn y senedd yn ddi-dor.