Fel arfer, person ydy
cyflwynydd
sy'n cyflwyno
rhaglen deledu
neu
rhaglen radio
. Gall y gair hefyd gyfeirio at gorff, sefydliad neu gwmni (e.e.
amgueddfa
neu
brifysgol
) sy'n cyflwyno sioe, arddangosfa neu ffilm ('Cyflwynwyd y ffilm gan...').
Mae meistr seremoniau (
Saesneg
:
master of ceremonies
,
MC
,
emcee
neu
westai
) yn berson sy'n cyflwyno sioe, cyngerdd, cinio, priodas ayb.
[1]
Ym myd ffilmiau, y cyflwynydd yw'r cynhyrchydd gweithredol, a gaiff y credyd am gyflwyno ffilm i gynulleidfa ehangach.
Person sy'n cyflwyno neu'n gwesteio
rhaglen deledu
ydy cyflwynydd teledu. Mae'n gyffredin i enwogion o nifer o feysydd gymryd y rol hwn erbyn heddiw, a cheir nifer o bobl sy'n gwneud bywoliaeth o gyflwyno yn unig, yn enwedig ym myd
teledu plant
. Mae
Steve Jones (cyflwynydd)
er enghraifft, sy'n enedigol o
Drerhondda
wedi cyflwyno rhaglenni i'r arddegau T4 ar Channel 4 ac yn yr
Unol Daleithiau
, mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn gyflwynydd cyfres gyntaf rhaglen deledu
The X Factor USA
.
Yn fras, mae cyflwynydd radio yn gwneud yr un swydd a chyflwynwyr teledu ond eu bod yn cyflwyno rhaglenni
radio
yn hytrach na theledu. Mae
Hywel Gwynfryn
yn enghraifft o gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd wedi bod wrth ei waith ers tua hanner canrif, gan gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen bop Cymraeg gyntaf
Helo Sut Da Chi?
ar y radio yn 1968.
Math o
newyddiadurwr
ar y teledu neu/a'r radio ydy sylwebydd chwaraeon (a adnabyddir hefyd fel 'cyflwynydd chwaraeon', 'cyhoeddwr chwaraeon' neu 'ddarlledwr chwaraeon'), sy'n arbenigo mewn sylwebu ar ddigwyddiadau chwaraeon. Gwneir hyn yn aml yn fyw. Mae
Nic Parri
'n enghraifft o sylwebydd rhaglenni
pel-droed
ar y teledu e.e.
Sgorio
ar
S4C
,
[2]
Cyflwynydd rhan amser ydy Nic, ond ceir hefyd cyflwynwyr chwaraeon llawn amser.