Bryn Wounded Knee
Y pennaeth Big Foot wedi'i ladd yn Wounded Knee yn Ne Dakota (llun a dynwyd gan y Farchoglu Americanaidd ar ol y gyflafan)
Cyflafan Wounded Knee
oedd y digwyddiad mawr olaf yn y gwrthdaro rhwng lluoedd arfog yr
Unol Daleithiau
(UDA) a
brodorion Gogledd America
. Digwyddodd ar
29 Rhagfyr
1890
mewn llecyn anghysbell o'r enw
Wounded Knee
ym mryniau
De Dakota
.
Mewn ymateb i'r sefyllfa truenus yn y
reservations
roedd rhai aelodau o'r
Sioux
wedi dianc i'r bryniau. Eisoes roedd y pennaeth enwog
Tatanka Lyotake
(1831-1890) neu 'Sitting Bull' yn Saesneg, a oedd erbyn hynny'n henwr, wedi ei saethu'n farw gan filwyr ac roedd y Sioux yn ofnus iawn. Eu harweinydd oedd y pennaeth
Si T?aŋka
sef 'Big Foot', oedd erbyn hynny'n sal ac yn heneiddio. Roedd ei gr?p o ddilynwyr cymysg yn cynnwys gwragedd a phlant. Erbyn i'r
Seithfed Farchoglu
, dan reolaeth y capten
Nelson Appleton Miles
, eu tracio i lawr roeddynt bron a llwgu ac mewn cyflwr truenus. Cytunwyd iddynt fynd i Wounded Knee, ymgasglu yno ac ildio eu harfau.
Roedd y tywydd yn aeafol a'r eira'n disgyn. Amgylchynwyd y pentref
tipi
gan y milwyr Yanci. Wrth i'r rhyfelwyr Sioux ddechrau ildio eu harfau dechreuodd y milwyr saethu. Roedd yr hyn a ddilynodd yn gyflafan ddidrugaredd. Saethwyd dros 300 o frodorion yn farw, nifer sylweddol ohonynt yn bobl mewn oed, gwragedd a phlant. Un o'r cyntaf i gael ei ladd oedd y pennaeth Big Foot, oedd yn gorwedd ar gludydd oherwydd ei salwch.
Ceir disgrifiad llygad-dyst gan
Black Elk
yn ei gyfrol
Black Elk Speaks
.
Yn
1973
meddianwyd pentref Wounded Knee gan tua 200 aelod o'r
Fudiad Brodorion America
(
American Indian Movement
) mewn protest yn erbyn polisiau Indiaidd llywodraeth
UDA
. Anfonwyd heddlu a milisia i'w gwarchae. Parhaodd y gwarchae am 69 diwrnod a lladdwyd dau o'r protestwyr cyn iddynt orfod ildio i'r awdurdodau.
Hyd heddiw Wounded Knee yw un o symbolau pennaf yr ymgyrch dros hawliau i'r brodorion yn America.