Label o rifau yw
Cyfeiriad IP
(o'r term
Saesneg
IP address
, sef
Internet Protocol address
) a dadogir i bob dyfais megis cyfrifiadur, argraffydd o fewn rhwydwaith o gyfrifiaduron sy'n defnyddio
Protocol Rhyngrwyd
ar gyfer cyfathrebu.
[1]
Gall y cysylltiad neu'r ddolen o fewn y rhwydwaith hwn fod yn ddi-wifr neu gyda weiren. Y rhwydwaith arferol, bellach, yw'r
rhyngrwyd
. Mae cyfeiriad IP yn gwasanaethu dau brif bwrpas: adnabod rhyngwyneb neu rwydwaith y gwesteiwr a chyfeiriadu lleoliad. Disgrifir ei rol fel a ganlyn: "
Mae enw'n dangos yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano. Mae cyfeiriad yn dangos ble mae ef. Mae llwybr yn dangos sut i fynd ato.
"
[2]
Diffiniwyd y cyfeiriad IP fel rhif
32 beit
[1]
a defnyddir y sustem hon, a adnabyddir fel 'Protocol Rhyngrwyd fersiwn 4' (IPv4) heddiw. Fodd bynnag, oherwydd cynnydd enfawr y
rhyngrwyd
ac oherwydd fod y cyfeiriadau IP yn prinhau mor sydyn, datblygwyd fersiwn newydd o IP (IPv6) ym 1995 sy'n defnyddio 128 beit ar gyfer y cyfeiriad.
[3]
Safonwyd IPv6 fel
RFC 2460
ym 1998
[4]
ac mae'n cael ei ddatblygu ers canol y 2000au.
Rhifau deuaidd
ydy cyfeiriadau IP, ond fel arfer fe'u storir mewn ffeiliau testun ac fe'u harddangosir mewn nodiannau a ellir eu darllen gan berson, er enghraifft 172.16.254.1 (ar gyfer IPv4), a 2001:db8:0:1234:0:567:8:1 (ar gyfer IPv6).
Mae'r
Internet Assigned Numbers Authority
(IANA) yn rheoli ac yn dyranu cyfeiriadau IP yn fyd-eang.
- ↑
1.0
1.1
RFC 760
,
DOD Standard Internet Protocol
(Ionawr 1980)
- ↑
RFC 791
,
Internet Protocol ? DARPA Internet Program Protocol Specification
(Tachwedd 1981). (
A name indicates what we seek. An address indicates where it is. A route indicates how to get there.
)
- ↑
RFC 1883
,
Internet Protocol, Version 6 (IPv6) Specification
, S. Deering, R. Hinden (Rhagfyr 1995)
- ↑
RFC 2460
,
Internet Protocol, Version 6 (IPv6) Specification
, S. Deering, R. Hinden, The Internet Society (Rhagfyr 1998)